Ysbrydoli
Dyfodol
Uchelgeisiol
Cynllun Strategol 2025-2029
Trosolwg
Mae’n bleser mawr gennym eich cyflwyno i’n Cynllun Strategol ar gyfer 2025-2029. Mae’r cynllun hwn yn cynrychioli nid yn unig map ffordd ar gyfer ein dyfodol, ond gweledigaeth gyfunol wedi’i llunio gan leisiau a dymuniadau cymuned ein Coleg, cyflogwyr a rhanddeiliaid allweddol.
Wrth wraidd ein cynllun strategol mae ein datganiad Gweledigaeth sy’n cyfleu cyfeiriad hirdymor y Coleg.
Ysbrydoli Dyfodol Uchelgeisiol
Mae ein gweledigaeth yn adlewyrchu ein hymrwymiad i helpu pob dysgwr unigol i gyrraedd ei botensial uchaf. Rydym yn Goleg lle mae dyheadau ac uchelgeisiau yn cael eu tanio, rhwystrau yn cael eu chwalu, a llwyddiant yn cael ei feithrin. Mae ein gweledigaeth wedi cael ei dylanwadu trwy dystio’r gwaith cadarnhaol a wnaed ar draws pob maes y Coleg.
Mae ein datganiad Cenhadaeth yn diffinio ein pwrpas sylfaenol, yr hyn rydym yn sefyll drosto a’r hyn rydym yn ei wneud.
Trawsnewid Bywydau trwy Addysg, Sgiliau, a Hyfforddiant
Mae ein Cenhadaeth yn amlygu ein hymroddiad i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau ein dysgwyr, ein cyflogwyr, ein partneriaid a’r gymuned ehangach.
Credwn mai addysg yw’r arf mwyaf grymus ar gyfer newid, a thrwy addysg a hyfforddiant o ansawdd uchel rydym yn galluogi pob un o’n dysgwyr i ffynnu a llwyddo ac mae hyn yn cael effaith drawsnewidiol arnynt yn ystod eu hamser gyda ni.
Ein Hymrwymiad Craidd:
Ein Dysgwyr
Mae ein hymrwymiad parhaus i’n dysgwyr wrth wraidd ein cynllun, gan sicrhau profiad rhagorol i’r dysgwr ynghyd ag addysg, sgiliau a hyfforddiant o ansawdd uchel. Mae’r ymrwymiad hwn yn hanfodol bwysig i ni oherwydd, trwy wneud hyn, gallwn fod yn sbardun i ddatblygiad economaidd a chyfiawnder cymdeithasol.
Rydym yn credu, trwy ganolbwyntio ar ragoriaeth mewn addysg a hyfforddiant, nid yn unig rydym yn paratoi unigolion ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus, ond rydym hefyd yn:

Hyrwyddo cyfle
Trwy ddarparu addysg o ansawdd uchel i bawb, rydym yn agor drysau i gyfleoedd newydd a all drawsnewid bywydau a chymunedau.

Llywio twf economaidd
Mae ein dysgwyr yn cael eu hyfforddi’n dda i fod yn aelodau medrus o’r gweithlu gan ddenu buddsoddiad a chynyddu arloesedd yn ein rhanbarth.

Hyrwyddo cydlyniant cymdeithasol
Trwy arferion addysg gynhwysol, rydym yn meithrin dealltwriaeth ac yn chwalu rhwystrau yn ein cymdeithas amrywiol.

Cefnogi datblygiad cynaliadwy
Trwy gynnwys ymwybyddiaeth o ddatblygiad cynaliadwy yn ein rhaglenni, rydym yn paratoi dysgwyr i fabwysiadu ymddygiadau cynaliadwy a chyfrannu at ddyfodol cynaliadwy.

Yr allwedd i’n llwyddiant: Ein Staff
Rydym yn cydnabod bod ein gallu i ddarparu profiad rhagorol i’r dysgwr sydd o ansawdd rhagorol yn dibynnu’n bennaf ar ein staff eithriadol. Ein staff yw’r grym y tu ôl i’n gweledigaeth ac maen nhw’n hanfodol i gyflawni ein cenhadaeth trwy sicrhau ffocws parhaus ar les a chynhwysiant. Trwy lwyddiant a gwasanaeth hir, a darparu cyfleoedd datblygu proffesiynol, ein nod yw parhau i ddenu a chadw’r staff gorau oll.

Ein Dull Gweithredu
Bu datblygiad y cynllun strategol hwn yn ymdrech wirioneddol gydweithredol. Rydym wedi cynnal ymgynghoriadau helaeth ac wedi casglu adborth gwerthfawr gan ein staff, ein dysgwyr, ein Bwrdd y Gorfforaeth a rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys ein cyflogwyr a’n partneriaid. Mae’r dull cynhwysol hwn yn sicrhau bod ein cynllun yn adlewyrchu safbwyntiau ac anghenion amrywiol pawb sy’n hanfodol i lwyddiant ein Coleg.
Wrth lunio’r cynllun hwn, rydym wedi ystyried yn ofalus yr amgylchedd allanol deinamig rydym yn gweithredu ynddo. Rydym wedi cysoni ein strategaethau â datblygiadau rhanbarthol arwyddocaol a mentrau cenedlaethol, gan gynnwys:
Cynllun strategol Medr
Mae ein hamcanion yn cyd-fynd â chyfeiriad strategol ehangach y sector, sy’n canolbwyntio ar system addysg drydyddol seiliedig ar anghenion dysgwyr, cymdeithas a’r economi gyda rhagoriaeth, cydraddoldeb ac ymgysylltiad yn ganolog iddi.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Rydym wedi cynnwys egwyddorion cynaliadwyedd a meddylfryd hirdymor ym mhob agwedd ar ein gweithrediadau i sicrhau bod anghenion heddiw yn cael eu hateb heb gyfaddawdu ar anghenion cenedlaethau’r dyfodol.
Llywodraeth Cymru
Mae ein strategaethau yn cyd-fynd â blaenoriaethau a pholisïau allweddol Llywodraeth Cymru, gan gefnogi’r agenda cenedlaethol ar gyfer addysg a datblygu sgiliau.
Bargen Ddinesig Bae Abertawe
Rydym yn manteisio ar y cyfleoedd economaidd a gyflwynir gan y buddsoddiad trawsnewidiol hwn yn ein rhanbarth.
Tirlun cymwysterau yng Nghymru
Lluniwyd ein cynllun yn ôl diwygiadau cyfredol i gymwysterau, gan gynnwys: Rhoi’r Cwricwlwm newydd i Gymru ar waith o fewn y sector ysgolion, datblygu cymwysterau TGAU ‘Gwneud-i-Gymru’ newydd, a chreu cymwysterau TAAU (Tystysgrif Alwedigaethol Addysg Uwchradd) sy’n ei gwneud yn ofynnol i ni arloesi ac addasu gan sicrhau cyfnod pontio effeithiol i addyg ôl-16.
Cyfleoedd Porthladdoedd Rhydd Celtaidd
Mae’r Coleg yn cefnogi ac yn manteisio ar y fenter economaidd gyffrous hon.
Ble byddwn ni ymhen pum mlynedd?
Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, rydym ni mewn cyfnod allweddol ar ein taith. Er ein bod eisoes wedi cyflawni cymaint, credwn y gallwn wneud rhagor eto, a mynd hyd yn oed ymhellach. Gallwn adeiladu ar ein henw rhagorol, ehangu ein twf mewn marchnadoedd presennol a newydd a chael effaith gadarnhaol ar ein dysgwyr, ein staff, ein cyflogwyr a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Trwy weithio gyda phartneriaid allweddol fel Llywodraeth Cymru, Medr, a Chyngor Abertawe, byddwn yn ceisio cyflawni’r amcanion canlynol.
Ymhen pum mlynedd byddwn ni:


Y Coleg sy’n perfformio orau yng Nghymru
- Dysgu, addysgu ac asesu rhagorol
- Canlyniadau cyrsiau a graddau sy’n uwch na’r meincnodau cenedlaethol
- Gwell cyfraddau cwblhau mewn perthynas â fframweithiau prentisiaeth
- Adolygiadau ansawdd mewnol ac allanol
- Iechyd a pherfformiad ariannol cryf.

Partner dibynadwy i gyflogwyr, a’n cymunedau
- Ateb anghenion cyflogwyr, rhoi sylw i fylchau sgiliau a chyfleoedd sy’n codi
- Cefnogi ein hysgolion, trwy ddarpariaeth alwedigaethol y cymwysterau TAAU newydd mewn modd sy’n gynaliadwy yn ariannol
- Sefydlu byrddau cyflogwyr ym mhob maes cwricwlwm galwedigaethol i lywio datblygiad y cwricwlwm.

Darparu profiad rhagorol i’r dysgwr
- Gwell ystâd y Coleg gan gynnwys ailddatblygiad Gorseinon, lleoliad Canol y Ddinas a gwell cyfleusterau chwaraeon
- Gweithredu strategaeth addysg uwch newydd gyda gwell amrywiaeth o gyrsiau ar Lefelau 4 a 5
- Cynnydd mewn cyfraddau boddhad myfyrwyr ar draws pob campws
- Gwell cyfraddau cadw myfyrwyr a lefelau dilyniant.

Coleg ymrwymedig i gynaliadwyedd
- Cynnwys arferion cynaliadwyedd ar draws pob adran y Coleg
- Sefydlu ôl troed carbon sylfaenol gyda gostyngiadau bob blwyddyn
- Lleihau nifer y byrddau gwaith cyfrifiaduron personol sefydlog ar draws y Coleg, a chael dyfeisiau symudol a gorsafoedd docio yn eu lle
- Cynaliadwyedd ariannol gan sicrhau lefel briodol o warged ar gyfer buddsoddiad parhaus.

Coleg a chyflogwr o ddewis
- Sefydlu’r Coleg fel y prif ddarparwr addysgol yng Nghymru trwy gynllun marchnata a chyfathrebu cynhwysfawr
- Cyrraedd targedau cofrestru arfaethedig trwy strategaethau recriwtio a chadw effeithiol
- Ennill gwobrau a chydnabyddiaeth genedlaethol
- Cynnydd mewn recriwtiaid a phartneriaethau rhyngwladol
- Cyfraddau boddhad staff uchel
- Gwell cyfraddau ymgeisio am swyddi gwag staff.

Coleg cynhwysol
- Mwy o amrywiaeth ymhlith y boblogaeth staff
- Parhau i ganolbwyntio ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant trwy hyfforddiant rheolaidd i staff a rhannu arferion gorau
- Cynnwys arferion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ein cwricwlwm.
*Sylwch fod yr amcanion strategol hyn yn cael eu hategu gan gynllun gweithredu blynyddol manwl sy’n sicrhau y cânt eu rhoi ar waith a’u monitro.
Cyfeiriad Strategol
Mae ein cyfeiriadau strategol wedi cael eu dewis yn ofalus, ac yn amlinellu’r meysydd allweddol y mae angen i ni ganolbwyntio arnynt er mwyn troi ein datganiadau ble byddwn ni yn gyflawniadau go iawn.
Cyfeiriad Strategol

Ein Dysgwyr
Byddwn yn cynnwys dysgwyr mewn prosesau o wneud penderfyniadau lle bo’n briodol.
Byddwn yn creu diwylliant dysgu diddorol a chynhwysol, sy’n ysbrydoli ac yn ysgogi pob dysgwr i gyflawni ei botensial llawn.
Byddwn yn parhau i fuddsoddi yn ein hystâd gan ddarparu amgylchedd addysgol modern ac addas ar gyfer ein dysgwyr.
Byddwn yn darparu gwasanaethau cymorth rhagorol i fyfyrwyr, wedi’u teilwra i ateb anghenion amrywiol ein dysgwyr.
Byddwn yn canolbwyntio ar welliannau gan sicrhau taith gyfoethog, flaengar a di-dor i’n dysgwr.

Ein Pobl a Lles
Byddwn yn darparu diwylliant ac amgylchedd cynhwysol sy’n hyrwyddo ymdeimlad o berthyn.
Byddwn yn parhau i flaenoriaethu a buddsoddi yn ein darpariaeth lles.
Byddwn yn parhau i fuddsoddi yn ein gweithlu a denu a chadw’r talent gorau.
Byddwn yn gweithredu mentrau amrywiaeth i sicrhau ein bod yn sefydliad mwy amrywiol.
Byddwn yn cael ein cydnabod fel cyflogwr o ddewis trwy gael cydnabyddiaeth genedlaethol ac ennill gwobrau.

Ein Hansawdd Uchel
Byddwn yn gweithredu mesurau gwella ansawdd ac olrhain cynnydd i sicrhau llwyddiant a’r safonau dysgu uchaf.
Byddwn yn buddsoddi mewn datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer ein staff i sicrhau eu bod ar flaen y gad o ran arferion addysg a safonau diwydiant.
Byddwn yn arloesi ac yn diweddaru ein cwricwlwm yn barhaus i ddiwallu anghenion dysgwyr a safonau diwydiant sy’n datblygu.
Byddwn yn darparu dysgu ac addysgu arloesol, cynhwysol o ansawdd uchel i alluogi dysgwyr i fod yn ddinasyddion llwyddiannus, cyflogadwy a moesegol.

Ein Harferion Cynaliadwyedd
Byddwn yn darparu addysg a hyfforddiant i staff a dysgwyr, i sicrhau bod cynaliadwyedd yn cael ei gynnwys ym mhob maes y Coleg.
Byddwn yn hyrwyddo cynaliadwyedd hirdymor ein Coleg a’i gymunedau trwy gydweithredu a chymryd rhan mewn partneriaethau cymdeithasol cyfrifol gyda sefydliadau cymunedol.
Byddwn yn lleihau ein hôl troed carbon trwy wella effeithlonrwydd ystâd y Coleg gan leihau’r defnydd o ynni ac adnoddau.
Byddwn yn cynnal iechyd ariannol cadarn trwy reolaeth ariannol effeithiol a thrwy wneud y gorau o gyfleoedd ariannu i gefnogi gweithrediadau hanfodol ynghyd â buddsoddiad a thwf parhaus.

Ein Partneriaid
Byddwn yn gweithio gyda chyflogwyr a phartneriaid allanol i gyflawni buddion teg a pharhaus i bob un ohonom mewn ffordd ragweithiol ac arloesol.
Byddwn yn gweithredu’n strategol yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol gyda’r llywodraeth ac awdurdodau lleol i ddylanwadu, cefnogi a gwella canlyniadau cyffredin.
Byddwn yn sefydlu ac yn cynnal partneriaethau strategol gyda rhanddeiliaid allweddol i ddatblygu a sicrhau darpariaeth arloesol a fydd yn gwella sgiliau a phrofiadau ein dysgwyr, ac yn fuddiol hefyd i gleientiaid, cymunedau a’r economi ehangach.
Gwerthoedd y Coleg
Mae ein gwerthoedd yn llywio popeth a wnawn, gan arwain ein cymuned o ddysgwyr, staff, a phartneriaid tuag at lwyddiant. Mae’r gwerthoedd hyn yn fwy nag egwyddorion, maen nhw’n adlewyrchu ein hymrwymiad i greu amgylchedd cadarnhaol, blaengar sy’n annog twf personol a phroffesiynol.

Gwydnwch
Mae bod yn wydn yn golygu bod â meddylfryd cadarnhaol tuag at heriau, bod yn agored i newid a chymryd cyfrifoldeb personol am eich lles eich hun.

Uniondeb
Mae gweithredu ag uniondeb yn golygu bod yn onest ag egwyddorion moesol cryf yn eich penderfyniadau a’ch gweithredoedd.

Parch
Mae parchu ein gilydd yn golygu trin pobl ag urddas trwy wrando ac ystyried beth sydd gan bobl i’w ddweud ac ymateb mewn ffordd gadarnhaol ac adeiladol.

Arloesedd
Mae bod yn arloesol yn golygu bod yn chwilfrydig ac yn agored i syniadau newydd i ysgogi gwelliant.

Cydweithredu
Mae cydweithredu yn golygu gweithio gyda’ch gilydd fel tîm i gyflawni pwrpas cyffredin.
Mae’r gwerthoedd hyn yn ein hysbrydoli i gynnal safon uchel o ragoriaeth, gan sicrhau llwyddiant i bawb yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.



Yr hyn sy’n bwysig i ni o hyd
Yn rhedeg trwy bob agwedd ar ein cynllun strategol mae pedwar maes allweddol, ein hedafedd aur, sy’n treiddio pob un o’n gweithredoedd:

Arloesedd Digidol
Cofleidio technoleg i wella dysgu, addysgu, ac effeithiolrwydd gweithredol.

Yr Iaith Gymraeg
Meithrin ein treftadaeth ddiwylliannol a grymuso dysgwyr a staff trwy sgiliau i ffynnu mewn gweithle dwyieithog.

Cyflogadwyedd
Sicrhau bod gan ein dysgwyr y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer y farchnad swyddi sy’n datblygu.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Sicrhau amgylchedd cynhwysol lle gall pawb ffynnu a chyrraedd eu potensial llawn.

Tom Giffard yn cwrdd â dysgwyr Coleg Gŵyr Abertawe sy’n elwa ar ddarpariaeth ddwyieithog, Hydref 2024
Edrych ymlaen
Wrth i ni gychwyn ar y daith gyffrous hon, mae ein gweledigaeth o Ysbrydoli Dyfodol Uchelgeisiol a’n cenhadaeth o Drawsnewid Bywydau trwy Addysg, Sgiliau a Hyfforddiant yn parhau i fod wrth wraidd ein holl ymdrechion. Mae’r cynllun strategol yn amlinellu sut y byddwn yn darparu profiad rhagorol i’r dysgwr, cynnal y safonau o’r ansawdd uchaf, hyrwyddo lles a chynhwysiant, meithrin partneriaethau strategol, ac ymrwymo i arferion cynaliadwy.
Trwy weithio gyda’n gilydd a glynu wrth ein gwerthoedd sef Gwydnwch, Uniondeb, Parch, Arloesedd, a Chydweithredu, byddwn yn cyrraedd ein nodau uchelgeisiol a pharhau i gael effaith gadarnhaol ar fywydau ein dysgwyr, ein cyflogwyr a’r cymynuedau rydym yn eu gwasanaethu.
Diolch am gymryd yr amser i ddarllen ein cynllun strategol ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda chi i wireddu ein huchelgeisiau.

Kelly Fountain
Pennaeth

Mark Jones
Prif Swyddog Gweithredol

Meirion Howells
Cadeirydd y Gorfforaeth



