Skip to main content
 

Graddedigion Coleg 2024 yn dathlu eu cyflawniadau

Mae dros 150 o fyfyrwyr addysg uwch Coleg Gŵyr Abertawe wedi cael cyfle i ddathlu eu llwyddiant mewn seremoni raddio arbennig yn Arena Abertawe.

Cawsant gyfle i ddathlu eu cyflawniadau mewn ystod eang o bynciau lefel uwch megis busnes a chyfrifeg, cyfrifiadura cymhwysol, addysgu, peirianneg, arwain a rheoli, iechyd a goal cymdeithasol a gofal plant. 

Mae’r Coleg yn gweithio gyda nifer o brifysgolion i ddarparu rhaglenni lefel uwch, gan gynnwys Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru'r Drindod Dewi Sant, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd.

“Roeddwn i’n falch iawn o groesawu pawb i Arena Abertawe i ddathlu cyflawniadau academaidd ein holl fyfyrwyr addysg uwch,” meddai’r Pennaeth, Kelly Fountain.

“Mae’r seremoni addysg uwch yn un o uchafbwyntiau blynyddol y Coleg ac mae’n gyfle i’n myfyrwyr AU ddathlu gyda’i gilydd gan fyfyrio ar eu gwaith caled a’u hymrwymiad i’w cyrsiau. Hefyd, gwn fod llawer o’n myfyrwyr yn gweithio’n galed i gydbwyso eu hastudiaethau â’u bywyd teuluol neu gyflogaeth.

“Fel Coleg, rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod dysgwyr yn graddio ac yn meddu ar y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt ar gyfer sicrhau gyrfa lwyddiannus yn y dyfodol, ac rydym yn gweithio’n agos â’n partneriaid yn y diwydiant a’n prifysgolion partner i sicrhau bod ein cynnig AU yn adlewyrchu’r sgiliau sydd eu hangen o fewn y rhanbarth. 

“Dymunwn bob llwyddiant i’n myfyrwyr wrth iddynt gamu’n uwch ar yr ysgol yrfaol.”

Yn y seremoni raddio, cafodd y Coleg yr anrhydedd o wobrwyo Tystysgrif Cymrodoriaeth arbennig i un o’n cyn-fyfyrwyr, Rocío Cifuentes MBE, sydd bellach yn gweithio fel Comisiynydd Plant Cymru.

Cyn ei rôl fel Comisiynydd, Rocío oedd Prif Weithredwr elusen Tîm Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid (EYST) Cymru, sef elusen a helpodd sefydlu yn 2005.

Yn ogystal â rhedeg EYST, roedd hi’n aelod o Bwyllgor Cymru ar gyfer y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ac mae hi wedi cadeirio Cydbwyllgor Ffoaduriaid Cymru. Mae ganddi brofiad o addysgu yn y Coleg, gweithio ym maes digartrefedd ieuenctid ac mae hi hefyd wedi sefydlu elusen ar gyfer pobl ifanc â lefelau amrywiol o ran gallu, gan gynnwys anableddau, o’r enw  Mixtup.

Roedd y noson yn gyfle i fyfyrwyr presennol a chyn-fyfyrwyr arddangos eu doniau. Fe wnaeth band jazz y Coleg diddanu’r gwesteion wrth iddynt gyrraedd ac fe wnaeth un o gyn-fyfyrwyr y Coleg, Penelope George berfformio darn. Ar ôl astudio gyda’r Coleg fe symudodd ymlaen i sicrhau ysgoloriaeth yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.