Yr Economi Gylchol
Ffôn 01792 284400 E-bost: Skills4Swansea@gcs.ac.uk
Trosolwg
Mae’r cwrs hwn yn cynnig trosolwg gynhwysfawr o’r economi gylchol, gan dynnu sylw at bwysigrwydd Cymru ac economi Cymru.
Mae’n archwilio sut y gall newid o economi llinol i economi gylchol hybu datblygiad cynaliadwy, lleihau gwastraff a gwella effeithlonrwydd cyfleusterau. Mae’r cwrs yn craffu ar y cyfleoedd a’r heriau unigryw a wynebir gan ddiwydiannau yng Nghymru i godi ymwybyddiaeth o’r pwnc a meithrin arloesedd a gwytnwch, er mwyn creu dyfodol economaidd mwy cynaliadwy a llewyrchus.
Gwybodaeth allweddol
Rhaid i ymgeiswyr fod yn gweithio ym maes gwastraff ac ailgylchu a bydd ganddynt brofiad o’r sector hwn.
Hanner diwrnod
CIWM/WAMITAB Lefel 3 a 4 mewn Rheoli Adnoddau Cynaliadwy.
Bydd angen i ddysgwyr ddod â dyfais fel ffôn neu dabled, gan fod y cwrs yn cynnwys rhywfaint o ymchwil annibynnol a gwaith cydweithredol.