Skip to main content

Gweithrediadau Atgyweirio ac Adnewyddu Aml-fasnach - Adeiladu (6562-22) Lefel 2 - Diploma NVQ

Prentisiaeth, GCS Training
Lefel 2
C&G
Llys Jiwbilî
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Trosolwg

Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer unigolion sy’n gweithio fel gweithredwyr cynnal a chadw mewn lleoliadau masnachol ac sy’n darparu manylebau, gwasanaethau atgyweirio neu adnewyddu cynhyrchion pren, plymwaith, gosod teils ar gyfer waliau a lloriau, addurno, gwaith brics a phlastro (yn dibynnu ar yr unedau a gyflawnir fel rhan o’r cymhwyster).

Mae’n gyfle i arddangos cymhwysedd yn y meysydd hyn ac ennill Diploma NVQ Lefel 2 mewn Gweithrediadau Cynnal a Chadw.

Gwybodaeth allweddol

Rhaid i unigolion fod yn 16+.

I gyflawni'r cymhwyster hwn rhaid i ddysgwyr gwblhau'r unedau gorfodol ynghyd â nifer o unedau dewisol.

Unedau gorfodol

  • Cydymffurfio ag iechyd, diogelwch a lles cyffredinol yn y gweithle
  • Cydymffurfio ag arferion gweithio cynhyrchiol yn y gweithle
  • Symud, trin a storio adnoddau yn y gweithle

Unedau Dewisol

  • Gwaith Coed
  • Peintio ac addurno
  • Plymwaith
  • Difrod allanol
  • Teilsio
  • Plastro
  • Defnyddio trywel

Gall dysgwyr symud ymlaen i gyflogaeth fel gweithiwr cynnal a chadw, neu symud ymlaen i brentisiaeth uwch (Lefel 3) mewn meysydd eraill fel gosod brics, plastro, gwaith coed, teilsio waliau a lloriau, yn ogystal â phaentio ac addurno.