Cyfoethogi
Mae bywyd y myfyriwr yn ymestyn y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth, gan gynnig gweithgareddau cyfoethogi amrywiol. Gallwch gymryd rhan mewn e-chwaraeon cystadleuol, datblygu gemau, neu fod yn rhan o elusen y Coleg, sef Prosiect Addysg Gymunedol Cenia.
Partneriaeth Addysg Gymunedol Cenia
Mae hon yn elusen annibynnol a sefydlwyd yn y Coleg yn 2003 i gefnogi Ysgol Gynradd Madungu yng Nghenia.
Mae staff a myfyrwyr o’r Coleg wedi ymweld â Madungu chwe gwaith. Yr ymweliad diwethaf oedd ym mis Mehefin 2024. Fel rhan o’r ymweliad, fe wnaethon nhw waith addysgu, gwaith gwirfoddol a chwrdd â staff a myfyrwyr yr ysgol.
Stiwdios Datblygu Coleg Gŵyr Abertawe
Gwireddwch eich syniadau gemio! Ymunwch â’n Stiwdio Datblygu Gemau a chydweithredu â’ch cyd-fyfyrwyr ar brosiectau cyffrous. Dysgwch arfau a thechnegau o safon diwydiant, datblygwch eich sgiliau, ac ennill profiad ymarferol mewn dylunio gemau, rhaglennu, a chelf.
Gwdihŵs CGA
Ymunwch â thîm e-Chwaraeon y Coleg! Cymuned o gemwyr angerddol, sy’n darparu cyfleoedd i ddatblygu sgiliau, cystadlu ar y lefel uchaf a gwneud ffrindiau.