Peiriannwr Rhwydwaith Azure Cysylltiol Ardystiedig Microsoft (AZ700) - Cymhwyster
Ffôn: 01792 284400 E-bost: training@gcs.ac.uk
Trosolwg
Mae’r cymhwyster hwn yn dysgu peirianwyr rhwydwaith sut i ddylunio, gweithredu a chynnal atebion rhywdwaith Azure. Bydd y rhaglen yn cwmpasu pob agwedd ar ddylunio, gweithredu a rheoli isadeiledd craidd rhwydwaith Azure, cysylltiadau rhwydwaith hybrid, traffig cydbwyso llwythi, llwybro rhwydweithiau, mynediad preifat i wasanaethau Azure, yn ogystal â diogelwch a monitro rhwydweithiau.
Byddwch yn dysgu sut i ddylunio a gweithredu seilwaith rhwydwaith diogel a dibynadwy (Azure) a sut i greu cysylltedd hybrid, llwybro, mynediad preifat i wasanaethau Azure yn ogystal â monitro ar Azure.
Bydd dysgwyr yn derbyn cymorth ar ôl cwblhau’r cwrs i ymgymryd ag arholiad Microsoft AZ700, er mwyn ennill statws achrededig AZ700.
Gwybodaeth allweddol
Dylai ymgeiswyr fod yn Beirianwyr Rhwydwaith presennol sydd ag awydd ennill arbenigedd yn Azure. Bydd ganddynt hefyd:
- Brofiad o ddefnyddio cysyniadau rhwydweithio, megis cyfeiriad IP, System Enwau Parthau (DNS) a llwybro
- Profiad o ddefnyddio dulliau cysylltu rhwydweihtiau megis VPN neu WAN
- Y gallu i ddefnyddio porth Azure
- Profiad o ddefnyddio porth Azure ac Azure PowerShell
Llwybr dysgu 1: Creu a Gweithredu Atebion Rhwydweithio Microsoft Azure - Cymhwyster
- Cyflwyniad i Rhwydweithiau Rhithwir Azure
- Dylunio a gweithredu rhwydweithiau hybrid
- Dylunio a gweithredu ExpressRoute Azure
- Rheoli llwythau traffig Azure nad ydynt yn HTTP(S)
- Rheoli llwythau traffig HTTP(S) Azure
- Dylunio a gweithredu diogelwch rhwydwaith
- Dylunio a gweithredu mynediad preifat i wasanaethau Azure
- Dylunio a gweithredu proses monitro rhwydweithiau
Llwybrau Dysgu Ardystiedig Microsoft yn ymwneud â Gweinyddu Azure, Diogelwch a Gwasanaethau Cwmwl.
Bydd y cymhwyster yn cael ei gyflwyno gan bartneriaid Coleg Gŵyr Abertawe, Stable, sy’n arweinwyr mewn Addysg Ardystiedig Microsoft.