Mae darlithydd Gofal Plant o Goleg Gŵyr Abertawe wedi ennill Gwobr y Dysgwyr ar gyfer Athro/Darlithydd Gorau yn nigwyddiad mawreddog Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru.
Derbyniodd Rhian Evans y wobr mewn seremoni wobrwyo arbennig yn Neuadd Sychdyn, Sir y Fflint, lle cyhoeddwyd yr enillwyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle AS.
Dyma’r tro cyntaf i’r gwobrau addysgu fod ar agor i golegau addysg bellach yn ogystal ag ysgolion.
Enwebwyd Rhian gan ei myfyrwyr Gofal Plant, a’i disgrifiodd yn eu cyflwyniad fel ‘angel ar eu hysgwydd’. Sonion nhw am ei gallu i wneud yr ‘amhosibl ymddangos yn bosibl’, ni waeth beth yw’r heriau personol y maen nhw’n eu hwynebu.
Yn ogystal â’i hymrwymiadau addysgu, Rhian yw un o hyrwyddwyr dwyieithrwydd y Coleg, sy’n helpu cydweithwyr a myfyrwyr i fagu hyder yn yr iaith Gymraeg.
Yn dathlu hefyd ar y noson roedd aelodau eraill o staff y Coleg a gyrhaeddodd y rownd derfynol – Dr Emma Smith (categori Darlithydd y Flwyddyn) a’r tîm Tirlunio ac Eco-adeiladu (categori Ymgysylltiad Dysgwyr yn yr Ysgol/Coleg).
Cafodd Emma, sy’n gyfrifol am raglen Anrhydeddau CGA y Coleg, ei chlodfori am ei gallu i hyrwyddo a grymuso dysgwyr i fod y gorau y gallant fod.
Cafodd y tîm Tirlunio ac Eco-adeiladu eu canmol am eu hymrwymiad i feithrin ymdeimlad o hunan-barch a balchder ym mhob un o’u dysgwyr.
“Rydyn ni wrth ein bodd o gael tri aelod o staff yn rownd derfynol Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru 2024,” meddai’r Pennaeth Kelly Fountain.
“Mae cynorthwyo myfyrwyr yn ganolog i bopeth rydyn ni’n ei wneud yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. Gwych oedd clywed felly – gan y dysgwyr eu hunain – sut maen nhw wedi elwa ar y cymorth, yr anogaeth a’r arweiniad maen nhw’n eu cael gan eu darlithwyr, a’r effaith gadarnhaol y mae hyn wedi’i gael ar eu bywydau.
“Llongyfarchiadau mawr i Rhian, Emma a’r tîm Tirlunio ac Eco-adeiladu ar eu llwyddiant haeddiannol.”