Aeth tua 50 o fyfyrwyr Safon Uwch Coleg Gŵyr Abertawe i ddigwyddiad hystings arbennig ar Gampws Gorseinon yn ddiweddar fel y gallant ofyn cwestiynau i ymgeiswyr eu hetholaeth leol.
Yn y cyfnod cyn yr Etholiad Cyffredinol, roedd yn gyfle i’r bobl ifanc hyn gymryd rhan yn y broses wleidyddol a gofyn cwestiynau am y materion sydd bwysicaf iddynt.
Yn bresennol roedd*:
Tonia Antoniazzi (Llafur)
Franck Banza (Democratiaid Rhyddfrydol)
Wayne Erasmus (Annibynnol)
Chris Evans (Y Blaid Werdd)
Kieran Thomas Pritchard (Plaid Cymru)
Tara-Jane Sutcliffe (Ceidwadwyr a Phlaid yr Unoliaethwyr, Gorllewin Abertawe)
Trefnwyd y digwyddiad gan Reolwr Maes Dysgu Cynorthwyol y Dyniaethau ac Ieithoedd, Michelle Knipe, a’r Arweinydd Cwricwlwm, Scott Evans, a gadeiriodd y ddadl hefyd.
“Roedden ni wrth ein bodd â chwmpas y testunau a godwyd ar y diwrnod gan gynnwys costau uchel mynd i’r brifysgol, effeithiau Brexit a’n perthynas â’r Undeb Ewropeaidd, argyfwng dyngarol Israel/Gaza, a newid yn yr hinsawdd,” dywedodd Michelle.
“Roedd yn bleser cynnal y digwyddiad hystings hwn a chadeirio’r hyn a oedd yn sesiwn ddiddorol, fywiog a llawn gwybodaeth,” ychwanegodd Scott. “Fe wnaeth ein myfyrwyr ragori arnyn nhw eu hunain gyda’u cwestiynau gan wneud yn siŵr bod yr ymgeiswyr yn clywed lleisiau pobl ifanc a’r hyn sy’n bwysig iddynt.”
* Cafodd Catrin Thomas (Reform UK) a Marc Jenkins (Ceidwadwyr, Gŵyr) eu gwahodd hefyd ond nid oeddent yn gallu dod oherwydd ymrwymiadau eraill.