Newyddion y Coleg
Taro’r nodau uchel – o berfformwyr ‘brenhinol’ i arwyr y cae rygbi
Dewch i gwrdd ag allforion Abertawe sy’n concro’r byd
O Dylan Thomas a Catherine Zeta Jones i Joe’s Ice-cream a’r ‘Jacks’ – mae gan Abertawe llawer i’w gynnig.
Ymhlith cyn-fyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe, ceir enwau enwog niferus. Dyma ond ychydig o’r cyn-fyfyrwyr sydd wedi gadael eu holion ym myd y celfyddydau, chwaraeon a bwyd – i enwi ond ychydig ohonynt.
Darllen mwyDiwrnod Canlyniadau Safon UG/UWCH – Dydd Iau 16 Awst 2018
Bydd canlyniadau Safon UG a Safon Uwch TGA ar gael i’w casglu o 9am ar ddydd Iau 16 Awst (D4 yng Ngorseinon)
Bydd rhaid i’r holl fyfyrwyr ddod â dull adnabod ffotograffig gyda nhw (bydd cerdyn myfyriwr yn ddelfrydol neu, os nad yw’ch cerdyn myfyriwr gyda chi, bydd trwydded gyrru neu basport yn dderbyniol) pan fyddan nhw’n casglu eu canlyniadau o’r Coleg.
Darllen mwyMyfyrwyr busnes yn ymchwilio i ddewisiadau prifysgol
Yn ddiweddar, roedd grŵp o fyfyrwyr Safon UG Busnes wedi cael cyfle i ymweld â Diwrnod Agored i Israddedigion ym Mhrifysgol Falmouth i gael cipolwg ar y rhaglenni gradd busnes ac entrepreneuriaeth a gynigir.
Yno, roedden nhw hefyd yn gallu cwrdd â nifer o fyfyrwyr presennol yn ogystal â staff darlithio.
Roedd y myfyrwyr hefyd wedi gwneud gweithgareddau arforgampau amrywiol ar draeth Swanpool. Roedd y gweithgareddau hyn wir wedi’u gwthio nhw allan o’u cylch cysur ond roedden nhw’n boblogaidd iawn!
Artistiaid talentog yn dangos eu gwaith
Mae artistiaid, ffotograffwyr a dylunwyr talentog o Goleg Gŵyr Abertawe wedi dathlu diwedd y flwyddyn academaidd gyda chyfres o arddangosfeydd ar draws y ddinas.
Cynhaliwyd y digwyddiad Safon Uwch Celf a Dylunio yn Adain y Celfyddydau Theatr y Grand Abertawe. Roedd yn dangos gwaith myfyrwyr ar amrywiaeth o gyrsiau gan gynnwys dylunio tecstilau, cyfathrebu graffig, celfyddyd gain a ffotograffiaeth, sydd i gyd yn cael eu haddysgu ar gampws Gorseinon.
Darllen mwyColeg Gŵyr Abertawe yn cael ei anrhydeddu mewn dathliad cenedlaethol o addysgu
Tîm y Celfyddydau Perfformio yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn ennill Gwobr Addysgu Arian yng Ngwobrau Addysgu cenedlaethol Pearson
Wedi'i ddewis o filoedd o enwebiadau, mae Tîm y Celfyddydau Perfformio yn un o ddim ond 65 enillydd a ddathlodd ddydd Gwener 22 Mehefin – Diwrnod Diolch i Athro, wrth i’r Gwobrau Addysgu cenedlaethol nodi ei 20fed flwyddyn o ddathlu rhagoriaeth mewn addysg.
Darllen mwyGwobrau Blynyddol Myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe 2018
Mae ein myfyrwyr rhagorol wedi cael eu hanrhydeddu yn seremoni Gwobrau Blynyddol Coleg Gŵyr Abertawe 2018.
Cynhaliwyd y seremoni yn Stadiwm Liberty, gyda’r enillwyr yn cynrychioli pob agwedd ar fywyd y coleg o letygarwch, busnes a chelf i ieithoedd a gofal.
Roedd troellwr Sain Abertawe Kevin Johns MBE wedi cyflwyno’r seremoni, lle cafodd myfyrwyr eu hanrhydeddu am eu llwyddiannau academaidd a phersonol, ac roedd siaradwr gwadd wedi ymuno ag ef hefyd – yr anturiaethwr, yr awdur a’r cyflwynydd teledu Tori James.
Ymweliad â Tsieina yn llwyddiant
Cafodd y Pennaeth Mark Jones wahoddiad gan Brifysgol Astudiaethau Tramor Beijing (PATB) – y brifysgol ieithoedd tramor orau yn Tsieina – i draddodi araith arbennig yn ei phumed Prif Uwchgynhadledd Bord Gron ar ‘heriau ac atebion ym maes addysg Ryngwladol’.
Roedd Mark hefyd wedi cael yr anrhydedd o gael ei benodi i Fwrdd Cynghori Rhyngwladol PATB.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae PATB wedi sefydlu nifer o ysgolion Rhyngwladol K-12, ac mae rhai ohonynt yn cynnig cymwysterau TGAU Rhyngwladol a Safon Uwch.
Dosbarth 2018
Daeth ein myfyrwyr A2 rhyngwladol i seremoni raddio ym Mhas Sgeti yn ddiweddar i ddathlu eu hamser yn y Coleg. Defnyddiwyd y digwyddiad hefyd fel cyfle i gydnabod y ffaith bod 100% o’n myfyrwyr A2 rhyngwladol wedi derbyn cynigion i astudio mewn prifysgolion Grŵp Russel.
Yn ogystal â staff y Coleg, daeth gwesteiwyr Homestay i’r digwyddiad hefyd y mae myfyrwyr wedi byw gyda nhw yn ystod eu hamser yn Abertawe.
Hoffai’r Adran Ryngwladol ffarwelio â’n myfyrwyr A2 rhyngwladol a dymuno pob llwyddiant iddynt yn y dyfodol.
Darllen mwyY camau nesaf: Cyngor Pennaeth Coleg i fyfyrwyr Abertawe ar y llwybr addysgol i’w gymryd ar ôl TGAU
Gyda myfyrwyr ar draws Abertawe ar fin cwblhau her fwyaf eu taith addysgol hyd yn hyn – arholiadau TGAU – nis oes amser gwell na nawr i feddwl am y dyfodol. I’r rhai ohonoch fydd wedi cwblhau eich arholiadau ym mis Mai a mis Mehefin, peidiwch â thynnu’ch troed oddi ar y sbardun! Efallai eich bod yn teimlo rhyddhad ar ôl cwblhau’r arholiadau ac nid oes unrhyw awydd gennych i feddwl am y camau nesaf yn eich bywydau academaidd, ond mae’r cyfnod cyn diwrnod y canlyniadau yn gyfle perffaith i ystyried beth i’w wneud nesaf.
Darllen mwyCanolfan ffasiwn a thecstilau newydd i’r Coleg
Bydd Canolfan Ffasiwn a Thecstilau newydd yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn rhoi cyfle i fyfyrwyr hogi eu sgiliau ar offer o safon diwydiant a fydd yn eu paratoi yn dda wrth wneud cais am swyddi yn y proffesiwn.
Diolch i hwb ariannol o £150,000 gan Lywodraeth Cymru, bydd y cyfleuster newydd ar gampws Llwyn y Bryn (yn Uplands) yn cael ei ddefnyddio gan fyfyrwyr ar amrywiaeth o gyrsiau cysylltiedig â chelf a dylunio.
Pagination
- Previous page ‹‹
- Page 61
- Tudalen nesaf ››