Newyddion y Coleg
Gobaith am wobr i Sally sy’n esiampl i ferched ym myd gwyddoniaeth
Mae Sally Hughes yn edrych ymlaen at yrfa ddifyr gyda Tata Steel ym Mhort Talbot ac yn gobeithio ysbrydoli merched eraill i ddilyn gyrfa wyddonol.
Sally oedd yr unig ferch mewn grŵp o brentisiaid technegol a gychwynnodd gyda’r cwmni ym Mhort Talbot ym mis Medi 2016 a dywed na fu’n hawdd llwyddo mewn amgylchedd mor wrywaidd.
Fodd bynnag, mae’r ferch ifanc 19 oed o Bort Talbot yn benderfynol o gyflawni ei photensial trwy fanteisio ar bob cyfle a gaiff.
Darllen mwyY Coleg yn dathlu Ffair Amrywiaeth 2018
Mae staff a myfyrwyr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe wedi mwynhau Ffair Amrywiaeth fywiog a llwyddiannus arall.
Ymhlith yr adloniant ar gael eleni roedd drymio Affricnanaidd, celfyddydau milwrol o Frasil, dawnsio Indiaidd Bollywood a dawnsio stryd. Cafodd cerddoriaeth fyw ei darparu hefyd gan fyfyrwyr o Gampysau Llwyn y Bryn a Gorseinon.
Roedd y partneriaid cymuned oedd yn mynychu yn cynnwys EYST, BAWSO, Cymdeithas Tsieineaidd Cymru a’r Ganolfan Gymuned Affricananidd.
Darllen mwyCyfleuster newydd sbon i fyfyrwyr wedi’i lansio ar Gampws Gorseinon
O ganlyniad i fuddsoddiad gwerth £2m gan Goleg Gŵyr Abertawe, yn fuan bydd myfyrwyr ar Gampws Gorseinon yn gallu cymryd hoe rhwng dosbarthiadau mewn lle cymdeithasol newydd sbon – Y Cwtsh Coffi.
Mae Cwtsh Coffi Gorseinon, a agorwyd yn swyddogol gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns AS, yn estyniad i’r bloc ffreutur ar y llawr cyntaf.
Mae’n cynnwys siop goffi Costa, ac mae’n cynnig lle golau ac awyrog i fyfyrwyr ymlacio gyda’i gilydd a chael rhywbeth i fwyta.
Darllen mwyMyfyrwyr yn mwynhau gweithdy tecstilau
Bu myfyrwyr Tecstiliau UG a Lefel A Coleg Gŵyr Abertawe yn mwynhau gweithdy gwehyddu gyda Llio James, gwehydd Cymreig sydd â diddordeb mewn datblygu'r berthynas rhwng gwehyddu llaw a'r diwydiant gwlân traddodiadol yng Nghymru.
Wrth archwilio'r teimlad o berthyn i wlad a diwylliant, rhan lliw o'r broses ddylunio, wrth iddi edrych ar gyfran, graddfa a siapiau geometrig wrth wehyddu brethyn.
Darllen mwyRecriwtio aelodau newydd i fwrdd y gorfforaeth
Mae Bwrdd Corfforaeth y Coleg, corff o 20 o aelodau, yn gyfrifol am solfedd ariannol y Coleg, ei reolaeth gadarn ac ansawdd y gwasanaeth mae’n ei ddarparu. Mae’r Bwrdd hefyd yn gyfrifol am y defnydd iawn o’r cyllid cyhoeddus a ymddiriedwyd iddo.
Cyfrifoldeb y gorfforaeth yw dod â barn annibynnol i drafod materion strategaeth, perfformiad, adnoddau a safonau ymddygiad.
Yn yr ychydig fisoedd nesaf mae Bwrdd y Gorfforaeth yn disgwyl i nifer y swyddi gwag i aelodau o’r bwrdd godi ac mae’n awyddus i recriwtio pobl sy’n teimlo y gallant wneud cyfraniad i’r Coleg trwy’r Bwrdd.
Darllen mwyY 10 prif reswm pam dylech garu’ch coleg
Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau amser llawn, rhan-amser, addysg uwch a galwedigaethol gan gynnig rhywbeth i bawb.Mae cyfleusterau gwych gennym! Yn ddiweddar rydym wedi cael ailddatblygiad gwerth £4 miliwn i du blaen Campws Tycoch sy’n cynnwys derbynfa, ystafell gyffredin a siop goffi Costa newydd! Yn fwy diweddar ar Gampws Gorseinon rydym yn lansio lle cymdeithasol gwerth £2 filiwn i fyfyrwyr a fydd yn gartref i le coffi Costa newydd gyda mynediad i Wi-Fi, sgriniau teledu a seddau ychwanegol ar gyfer hyd at 110 o fyfyrwyr. Darllen mwy
Coleg yn cefnogi ymgyrch genedlaethol iechyd meddwl
Mae Coleg Gŵyr Abertawe - sydd wedi ennill Gwobr Efydd, Safonau Iechyd Corfforaethol yn ddiweddar - wedi arwyddo’r Adduned Cyflogwr i fynd i'r afael â gwahaniaethu sy'n wynebu pobl â chyflyrau iechyd meddwl yn y gweithle.
Mae’r Adduned Cyflogwr yn rhan allweddol o’r ymgyrch genedlaethol Amser i Newid, mudiad cymdeithasol sy’n tyfu ac sydd â’r nod o newid y ffordd rydym i gyd yn meddwl ac yn gweithredu ynghylch problemau iechyd meddwl.
Darllen mwyAur a bri i Dîm y DU
Mae Tîm y DU – sy’n cynnwys prentisiaid a myfyrwyr ifanc gorau’r genedl –wedi dychwelyd o Rowndiau Terfynol Euroskills ym Mwdapest yn gyforiog o fedalau a bri.
Yn eu plith mae cyn-fyfyriwr Arlwyo a Lletygarwch o Goleg Gŵyr Abertawe.
Darllen mwyColeg Gŵyr Abertawe yn Noddi Digwyddiad Pro Cymru
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch iawn o gael ei enwi fel noddwr allweddol digwyddiad Pro Cymru, Taith Syrffio Pro UKPSA.
Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o Gyfres Nerf Clash of the Groms 2018, sy'n ceisio annog datblygiad syrffwyr iau Cymru.
Cynhelir Pro Cymru ddydd Sadwrn 13 a dydd Sul 14 Hydref yn Rest Bay, Porthcawl, ac mae’n bwriadu denu’r syrffwyr gorau o bob cwr o’r DU.
Darllen mwyYr haul yn gwenu ar fyfyrwyr Rhyngwladol!
Roedd rhai o fyfyrwyr Rhyngwladol newydd Coleg Gŵyr Abertawe wedi mwynhau golygfeydd ysblennydd Bae Rhosili dros y Sul.
Gyda’r haul yn disgleirio’n braf, roedd y myfyrwyr wedi cerdded i’r wylfa ger Pen Pyrod cyn mynd i lawr i’r traeth lle roedden nhw wedi chwarae pêl-droed, Frisbee a chis.
Roedd pawb wrth eu bodd a dywedodd un myfyriwr mai Rhosili yw’r lle ‘mwyaf hardd’ mae erioed wedi ymweld ag ef.
Pagination
- Previous page ‹‹
- Page 58
- Tudalen nesaf ››