Fe wnaeth tua 120 o fyfyrwyr addysg uwch o Goleg Gŵyr Abertawe ddathlu llwyddiant yn ddiweddar mewn digwyddiad graddio arbennig yn Arena Abertawe.
Roeddent yno i ddathlu eu cyflawniadau mewn amrywiaeth eang o gyrsiau lefel uwch gan gynnwys busnes, cyfiawnder troseddol, cyfrifiadura, peirianneg, a gofal plant.
“Unwaith eto, dwi mor falch o groesawu pawb i Arena Abertawe lle gallwn ddathlu cyflawniadau academaidd ein holl fyfyrwyr addysg uwch,” meddai’r Pennaeth a’r Prif Weithredwr, Mark Jones.
“Mae ein seremoni addysg uwch yn nodi amser arbennig iawn i’n myfyrwyr lle gallan nhw ddathlu’r holl waith caled a’u hymrwymiad i’w hastudiaethau.
“Fel Coleg, rydyn ni’n ymrwymedig i sicrhau bod y dysgwyr hyn yn graddio gyda’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnyn nhw ar gyfer gyrfa lwyddiannus, ac rydyn ni’n gweithio’n agos iawn gyda’n holl bartneriaid diwydiant i sicrhau bod ein rhaglenni’n adlewyrchu’r sgiliau sydd eu hangen yn y rhanbarth. Rydyn ni’n dymuno pob llwyddiant i’n myfyrwyr yng nghamau nesaf eu gyrfaoedd.”
Mae’r Coleg yn cydweithio â nifer o brifysgolion gan gynnwys Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Prifysgol De Cymru, a Phrifysgol Caerdydd.
Yn y digwyddiad graddio, fe wnaeth y Coleg hefyd ddyfarnu Tystysgrif Cymrodoriaeth arbennig i Carolyn Harris, AS Dwyrain Abertawe, i gydnabod ei gwaith diflino ar ran pobl y ddinas.
Meddai Cadeirydd Llywodraethwyr y Coleg, Meirion Howells: “Mae’n anrhydedd ac yn fraint fawr cael cyflwyno Carolyn fel Cymrawd Anrhydeddus y Coleg am gefnogi a chynrychioli pobl a chymunedau ledled Abertawe.”
Yn 2015, cafodd Carolyn ei hethol gyntaf fel Aelod Seneddol yr etholaeth a chafodd ei hail-ethol wedyn yn 2017 a 2019. Yn 2018 fe ddaeth yn Ddirprwy Arweinydd cyntaf Llafur Cymru.
Mae Carolyn wedi ymgymryd â nifer o rolau mainc flaen gan gynnwys Gweinidog Swyddfa Gartref yr Wrthblaid, Gweinidog Menywod a Chydraddoldeb yr Wrthblaid ac Ysgrifennydd Seneddol Preifat Arweinydd yr Wrthblaid. Mae bellach yn eistedd ar y meinciau cefn ac yn cadeirio Grwpiau Hollbleidiol Seneddol ar niwed cysylltiedig â gamblo, harddwch a lles a’r menopos. Mae hefyd yn eistedd ar Bwyllgorau Dethol Menywod a Chydraddoldeb a Materion Cartref ac yn cyd-gadeirio Tasglu Menopos y Llywodraeth.