Diddordeb brwd mewn bioleg ac anifeiliaid yw’r hyn sydd wedi rhoi Micah Mainwaring, myfyriwr Coleg Gŵyr Abertawe, ar y llwybr gyrfa i fod yn balaeontolegydd.
Mae Micah ar hyn o bryd yn astudio cyrsiau Safon Uwch mewn bioleg, daeareg, mathemateg a drama ar Gampws Gorseinon.
Mae ganddynt ddiddordeb arbennig mewn palaeobioleg, sy’n canolbwyntio ar ecoleg a bywyd creaduriaid cynhanesyddol.
Roedd prosiect unigol Micah ar gyfer Bagloriaeth Cymru yn edrych ar rai o’r darganfyddiadau diweddar mewn palaeontoleg. Roedd yna ffocws ar esblygiad plu a’u pwrpas, darganfyddiad tiktaalik, trawsnewidiad tetrapodau ar dir, a’r hyn y gall melanasomau ei ddweud wrthym am ddeinosoriaid.
Mae astudio pedwar cwrs Safon Uwch yn ddwys iawn, ond mae’n rhoi boddhad i Micah hefyd.
“Mae astudio bioleg anifeiliaid byw yn hynod bwysig,” meddai Micah. “Mae mathemateg yn ddefnyddiol iawn yn fy holl bynciau gwyddoniaeth, ond mae gweithio trwy’r cwestiynau anodd hynny hefyd yn llawer o hwyl! Yn wreiddiol wnes i ddewis daeareg i ganolbwyntio ar ffosiliau ac esblygiad yn unig, ond dwi wir yn mwynhau’r holl feysydd eraill rydyn ni’n eu hastudio hefyd. Dwi wastad wedi bod â diddordeb mawr yn y theatr ac roeddwn i eisiau cyfuno hynny â fy astudiaethau eraill, mwy gwyddonol.”
Ar ôl cwblhau eu cyrsiau Safon Uwch yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, mae Micah yn gobeithio symud ymlaen i Brifysgol Bryste i astudio BSc mewn palaeontoleg ac esblygiad.
“Mae’r cwrs penodol hwn yn cyfuno unedau bioleg â gwyddorau’r ddaear, a dyna’r cyfuniad perffaith i mi,” meddai Micah.
"Mae Micah yn fyfyriwr anhygoel sydd ag ethig gwaith trylwyr,” meddai’r Arweinydd Cwricwlwm Paul Lewis. “Mae brwdfrydedd Micah dros balaeontoleg yn amlwg ac mae ganddynt ddyfodol disglair iawn o’u blaen."