Dyma beth sydd angen i chi ei wybod os ydych yn bwriadu ymuno â ni ar gyfer ein Digwyddiad Agored Campws Gorseinon ar Ddydd Mercher, 13 Tachwedd, rhwng 3:30pm a 7:30pm. Rydyn ni’n edrych ymlaen at eich gweld yno!
Oherwydd y gwaith ailwampio gwerth £20.6m ar y Campws – a fydd yn arwain at well cyfleusterau gan gynnwys gofod cymdeithasol, atriwm newydd ac ystafelloedd dosbarth – mae’n bosibl y bydd pethau eraill i’w hystyried cyn ymweld â ni.
Cofrestrwch ymlaen llaw am y digwyddiad os gallwch. Nid yn unig byddwch yn debygol o arbed amser pan fyddwch chi’n cyrraedd, ond bydd hefyd yn caniatáu i ni gadw mewn cysylltiad â chi i roi unrhyw wybodaeth newydd i chi.
Dyma fap o’r safle i unrhyw un nad yw’n gyfarwydd â Champws Gorseinon. Bydd y map hwn yn dangos y ffordd orau i chi gerdded o gwmpas y Campws. Os bydd y tywydd yn wael ar y noson, gwisgwch yn briodol gan nad yw rhannau o’r campws dan orchudd.
Bydd digon o staff a myfyrwyr wrth law ar y noson i’ch helpu i ganfod eich ffordd o gwmpas y Coleg.
Mae lleoedd parcio cyfyngedig ar gael ar y campws. Bydd lleoedd parcio ychwanegol ar gael yng Nghlwb Rygbi Casllwchwr ar ôl 3.30pm, a’r cilfannau bysiau oddi ar Heol Glebe ar ôl 5pm.
Gwnewch eich ffordd i’ch anerchiad croeso adeg cyrraedd. Cynhelir hwn naill ai ym Mloc A neu yn D4 - mae’r ddau wedi’u haroleuo ar y map.
Cymerwch gip ar ein rhaglen ar gyfer y digwyddiad – yma gallwch weld yr holl feysydd pwnc a’r meysydd cymorth a fydd yn cael eu cynrychioli ar y noson.
Cofiwch, yn ogystal â dysgu rhagor am ein cyrsiau Safon Uwch a galwedigaethol, gallwch hefyd ddysgu rhagor am brentisiaethau, cyllid a chludiant, ein rhaglen Rhydgrawnt, academïau chwaraeon, cymorth iaith Gymraeg, a llawer mwy.
Bydd ein siop goffi ar agor ar y noson. Mae croeso i chi edrych o gwmpas ein llyfrgell hefyd.
Os byddwch yn penderfynu eich bod am wneud cais ar y noson, gallwch wneud hynny – ewch i’r llyfrgell a siarad ag aelod o’n tîm Derbyn.
Angen rhagor o gymorth i gynllunio’ch taith? Cymerwch gip ar y map Google rhyngweithiol sy’n cynnwys lleoedd parcio wedi’u haroleuo.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein nosweithiau agored, e-bostiwch marketing@gcs.ac.uk