Yn ddiweddar roedd myfyrwyr o Goleg Gŵyr Abertawe wedi mwynhau trafodaeth fywiog gydag aelodau o Bwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin.
Cynhaliodd Campws Gorseinon gyfarfod bord gron rhwng dysgwyr a Geraint Davies, AS Llafur dros Orllewin Abertawe; Stephen Crabb, AS Ceidwadol dros Breseli Sir Benfro; a Ben Lake, AS Plaid Cymru dros Geredigion.
Mae’r Pwyllgor materion Cymreig wedi lansio ymchwiliad i ddarlledu yng Nghymru. Mae ganddo gylch gwaith eang sy’n cynnwys pynciau megis sut i sicrhau sector darlledu llwyddiannus a deinamig yng Nghymru; dyfodol darlledu gwasanaeth cyhoeddus, a lle darlledu chwaraeon am ddim yng Nghymru.
Nod y cyfarfod diweddar yn y Coleg oedd archwilio rôl darlledu Cymreig o safbwynt pobl ifanc. Yn gyntaf cafwyd cyflwyniad ar sut mae pwyllgorau dethol yn gweithio. Wedyn, cafwyd trafodaethau mewn grwpiau bach ar yr ymchwiliad darlledu yng Nghymru dan arweiniad yr aelodau seneddol.
Nod y diwrnod oedd clywed amrywiaeth eang o safbwyntiau a phrofiadau ynghylch darlledu yng Nghymru, fydd yn helpu i lunio meddylfryd y Pwyllgor wrth iddynt symud ymlaen â’r ymchwiliad hwn. Cafodd y myfyrwyr, o ystod o gyrsiau Safon Uwch a galwedigaethol gan gynnwys y gyfraith, Saesneg, llywodraeth a gwleidyddiaeth, a’r cyfryngau creadigol, eu hannog i siarad am eu profiadau eu hunain o’r cyfryngau traddodiadol a’r cyfryngau ar-lein.
“Roedd myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe wedi rhoi darlun clir o sut mae pobl ifanc yn defnyddio llawer o gyfryngau ar eu pennau eu hunain sy’n gallu cael goblygiadau ar gydlyniant teuluol a sgiliau cymdeithasol,” meddai Geraint Davies AS.
“Yr hyn ddaeth allan o’r drafodaeth oedd galw am gynnwys Cymreig fel y gyfres ddiweddar In My Skin, a’r peryglon o fod yn gaeth i sianeli’r cyfryngau cymdeithasol fel TikTok sy’n gallu atgyfnerthu safbwyntiau a phrofiadau yn hytrach na’u lledu.
“Mae’n bwysig bod y Llywodraeth yn gwrando ar y lleisiau hyn, yn cefnogi gwaith cynhyrchu cyfryngau lleol, ac yn helpu pobl ifanc i ffynnu mewn amgylchedd sy’n darparu gwybodaeth ddibynadwy yn ogystal ag adloniant cyfrifol.
“Roedd yn bleser treulio amser gyda’r myfyrwyr hyn a bydd eu hadborth yn gwneud gwahaniaeth go iawn i’n hymchwiliad.”