Mae gan Goleg Gŵyr Abertawe amrywiaeth mawr o gyrsiau rhan-amser ar gael.
Fel rhan o Wythnos Addysg Oedolion, 9-15 Medi 2024, rydyn ni’n gyffrous i gynnig amrywiaeth o sesiynau blasu am ddim gyda’r nod o danio’ch creadigrwydd ac ysgogi cariad at ddysgu gydol oes. Ymunwch â ni i archwilio sgiliau newydd, ailddarganfod hen hobïau, a chysylltu â chymuned gefnogol o gyd-ddysgwyr.
Mae llawer o gyrsiau i ddewis o’u plith ar bob math o bynciau a sgiliau, gan gynnwys Sgiliau Digidol ar gyfer Busnes, Siopa Ar-lein yn Ddiogel, Diogelwch Ar-lein, Cyflwyniad i Wehyddu Gwŷdd Peg, Cudynnu i Ddechreuwyr a llawer mwy.
Dyw hi byth yn rhy hwyr i ddysgu rhywbeth newydd, felly cofrestrwch a rhoi cynnig arni – efallai y byddwch chi’n darganfod angerdd newydd ac ailgynnau cariad at ddysgu.
Os ydych chi am wneud eich hun yn fwy cyflogadwy, sicrhau dyrchafiad, paratoi i newid gyrfa, archwilio sgiliau a hobïau newydd neu fodloni angerdd, cymerwch gip ar y cyrsiau sydd ar ddod yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.
Beth bynnag yw’ch diddordeb, eich angerdd neu’ch nod proffesiynol, mae’n debygol y bydd yna gwrs i chi. Darperir ar gyfer pob cyllideb gyda nifer o gyrsiau am ddim. Mae pob un yn rhoi modd i chi astudio yn nes at eich cartref ar gampysau ar draws Abertawe.
Mae dosbarthiadau nos a rhan-amser Coleg Gŵyr Abertawe yn cyd-fynd â’ch amserlen, ac maen nhw’n ffordd wych o ddiweddaru eich sgiliau. Byddwch chi’n elwa ar fynediad llawn i staff cymorth profiadol a fydd yn gallu rhoi cyngor ar gyrsiau, gyrfaoedd a chyflogadwyedd.
Hoffech chi wybod sut y gall Coleg Gŵyr Abertawe eich helpu i gymryd y cam nesaf yn eich bywyd neu’ch gyrfa? Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn gcs.ac.uk/cy