Skip to main content
Llun o’r dylunydd pensaernïol Charlie Luxton.

Dosbarthiadau meistr newydd y Coleg yn cyfoethogi’r cwricwlwm

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wrth eu bodd yn parhau i gymryd rhan yn y Rhaglen Trosglwyddo Gwybodaeth trwy gyfres o ddosbarthiadau meistr rhithwir gydag arweinwyr diwydiant nodedig dros y chwe mis nesaf.

Mae’r Rhaglen Trosglwyddo Gwybodaeth yn fenter a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy’n cynorthwyo colegau yng Nghymru i ddarparu gweithgareddau sy’n ceisio cyflymu ac adeiladu arbenigedd staff a chynyddu gwybodaeth dysgwyr a phrofiad dysgu.

Nod y dosbarthiadau meistr yw cyfoethogi’r cwricwlwm presennol trwy anerchiadau bywyd go iawn sy’n canolbwyntio ar ddiwydiant gydag unigolion fel y dylunydd pensaernïol Charlie Luxton, cyn Brif Swyddog Gweithredol sefydlu Gü, James Averdieck, a’r gwyddonydd dylunio, y damcaniaethwr systemau a’r dyfodolwr, Melissa Sterry.

“Rydyn ni’n falch dros ben o gael y cyfle i gynnig y dosbarthiadau meistr hyn trwy’r Rhaglen Trosglwyddo Gwybodaeth,” meddai’r Cyfarwyddwr Datblygu Sgiliau a Busnes, Paul Kift.

“Byddan nhw’n rhoi modd i’n staff a’n myfyrwyr gael mynediad at sgiliau ac arbenigedd diwydiant arweiniol a deall yr heriau sy’n wynebu sectorau allweddol, datblygiadau technolegol ac anghenion newid trawsnewidiol.

“Gan ddod â’r byd academaidd a’r byd busnes ynghyd, bydd y dosbarthiadau meistr hyn hefyd yn canolbwyntio ar flaenoriaethau Sgiliau Cymru, sy’n cynnwys meysydd megis adeiladu, digidol, peirianneg, iechyd a gwyddoniaeth.

Mae dosbarthiadau meistr rhithwir y dyfodol yn cynnwys:  
 
Ionawr: Michael Pawlyn  
Mae Michael yn brif siaradwr ar fioddynwarededd ac arloesi. Fe’i disgrifiwyd fel arloeswr ym maes dylunio adfywiol a bioddynwarededd, ac mae’n ymroddedig i ddefnyddio ysbrydoliaethau byd natur yn ei waith fel pensaer.

Chwefror: Charlie Luxton
Mae Charlie yn ddylunydd pensaernïol sy’n angerddol am yr amgylchedd, pensaernïaeth gynaliadwy a dylunio ecogyfeillgar.

Chwefror: Mike Jones
Mike yw un o’r arbenigwyr arweiniol ym maes adeiladu, gyda ffocws penodol ar electroneg, opteg ffibr a datblygiad newydd.

Mawrth: James Averdieck
Yn gyn Brif Swyddog Gweithredol sefydlu Gü, mae James bellach yn rhedeg The Coconut Collaborative, busnes iogwrt sy’n defnyddio llaeth cnau coco.

Mawrth: Melissa Sterry
Yn wyddonydd dylunio, yn ddamcaniaethwr systemau ac yn ddyfodolwr, mae Melissa wedi’i chydnabod fel awdurdod rhyngwladol blaenllaw ar yr wyddor, y dechnoleg a’r meddylfryd y gallai hi helpu i adeiladu byd gwell.

Os hoffech fynychu unrhyw rai o’r dosbarthiadau meistr rheolaeth sydd ar ddod, cofrestrwch eich diddordeb yma.