Mae’r dyn a oruchwyliodd y gwaith o greu Crochenwaith byd-enwog Cambrian wedi cael ei anrhydeddu â phlac glas ym Mhlas Sgeti, sef tirnod yn Abertawe a oedd yn berchen arno cryn amser yn ôl.
Cafodd y plac glas ei ddadorchuddio er cof am Lewis Weston Dillwyn - a oedd hefyd yn fotanegydd o fri - ar 2 Gorffennaf.
Ganed Dillwyn yn 1778. Dychwelodd ei dad, Crynwr o Pennsylvania i Brydain ychydig cyn cyfnod gwaethaf Philadelphia yn Rhyfel Annibyniaeth America. Roedd yn ymgyrchu’n frwd yn erbyn caethwasiaeth ac fe deithiodd ledled Cymru a De Cymru fel rhan o’r Pwyllgor Gwrthgaeswasiaeth.
Fe wnaeth Dillwyn, a bu farw yn 1855, oruchwylio’r gwaith o gynhyrchu porslen Abertawe fel perchennog cwmni Crochenwaith Cambrian. Roedd e hefyd yn unigolyn uchel ei barch ym maes botaneg a chregynneg, sef astudiaeth o gregyn molysgiaid, ac fe gyhoeddodd weithiau yn y maes hwn.
Sicrhaodd rôl Siryf Morgannwg yn 1818 ac etholwyd ef yn AS dros Sir Forgannwg yn 1834. Prynodd Blas Sgeti ac etholwyd ef yn Arglwydd Faer Abertawe yn 1839. Roedd e hefyd yn un o sylfaenwyr Sefydliad Brenhinol De Cymru ac ef oedd y llywydd cyntaf. Cyhoeddodd waith ar hanes Abertawe yn 1840.
Cyngor Abertawe sy’n gyfrifol am y plac glas a’r Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fenter, Datblygu ac Adfywio, oedd yn arwain y dadorchuddiad, dywedodd:
“Mae ein cynllun plac glas yn bwysig iawn gan ei fod yn nodi treftadaeth gyfoethog a diddorol Abertawe. Mae Lewis Weston Dillwyn yn haeddu’r plac hwn ac roedd ei hanes ym meysydd busnes, botaneg a gwleidyddiaeth wir wedi ei helpu i sefydlu ei hun yn ffigwr blaenllaw iawn yn ei ddydd."
“Dyma’r degfed plac i ni ddadorchuddio dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Bydd dynion, menywod, digwyddiadau a lleoedd eraill a helpodd roi Abertawe ar y map yn sicr o gael eu cydnabod â phlac yn y dyfodol, wrth i ni barhau i ddathlu ein hanes difyr ymhellach.”
Ymhlith y bobl eraill sydd wedi derbyn placiau glas yn Abertawe yn ddiweddar mae’r gantores Badfinger Pete Ham, yr ymgyrchydd dros hawliau menywod Emily Phipps a’r cenhadwr Griffith John. Ewch i www.swansea.gov.uk/blueplaques am ragor o wybodaeth.
PR: Sir a Dinas Abertawe