Skip to main content
  

Coleg yn taflu goleuni ar ei gymorth trawiadol i fyfyrwyr

Roedd yn bleser mawr gan Goleg Gŵyr Abertawe groesawu Sioned Williams, Aelod Rhanbarthol o’r Senedd, i gampws Tycoch yn ddiweddar.

Yn ystod ei thaith o gwmpas y campws, ymwelodd Sioned ag adrannau Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a Sgiliau Byw’n Annibynnol (SBA) y Coleg, yn ogystal â Gwasanaethau Dysgwyr a thîm y Llyfrgell. Yno, roedd staff yn gallu dangos y lefelau amrywiol o gymorth a gynigiwn i fyfyrwyr fel cyngor ar gyllid, gofal bugeiliol, cyfoethogi a lles, a niwroamrywiaeth.    

Yng nghwmni’r Pennaeth Kelly Fountain, galwodd Sioned heibio i Ganolfan Chwaraeon y Coleg lle mwynhaodd hi ambell gêm o bêl-picl gyda myfyrwyr SBA y flwyddyn gyntaf fel rhan o’u cwricwlwm Lles Actif.

Ar ddiwedd yr ymweliad, aeth Sioned i’r Hwb Gwyrdd, lle aethpwyd â hi o gwmpas yr ystafelloedd dosbarth/gwaith newydd anhygoel a’r mannau awyr agored sy’n cael eu defnyddio gan ddysgwyr ar gyrsiau tirlunio a garddwriaeth.

“Roedden ni’n falch iawn o groesawu Sioned i Gampws Tycoch i gwrdd â’n staff a’n myfyrwyr,” meddai Kelly. “Cefnogi pob un o’n dysgwyr yw un o’n prif flaenoriaethau yng Ngholeg Gŵyr Abertawe ac felly roedd yn gyfle gwych i ddangos yr hyn rydyn ni’n ei wneud – ac yn gwneud yn dda dros ben – o ran gofal academaidd a bugeiliol ym mhob un o’n meysydd pwnc a’n llwybrau.”