Skip to main content

Coleg Gŵyr Abertawe yn cyrraedd rhestr fer yng Ngwobrau Symudedd Cymdeithasol y DU 2024

 

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer categori Ysgol/Coleg y Flwyddyn yn wythfed Gwobrau Symudedd Cymdeithasol blynyddol y DU.

Cafodd y gwobrau eu creu i gydnabod a dathlu sefydliadau blaengar sy’n hybu newidiadau cymdeithasol i weithwyr a’u cymunedau, trwy ymgorffori symudedd cymdeithasol yn eu strategaethau busnes craidd. 

Ers lansio’r digwyddiad yn 2017, mae sefydliadau wedi cael cyfle i ddefnyddio’r platfform hwn i hybu symudedd cymdeithasol yn y DU ac maent wedi denu ceisiadau gan sefydliadau blaenllaw ledled y wlad o bob math o sectorau amrywiol,. 

Mae’r gwobrau yn gydnabyddiaeth werthfawr i sefydliadau sy’n hyrwyddo symudedd cymdeithasol.

Dywedodd Tunde Banjoko OBE, Sylfaenydd Gwobrau Symudedd y DU: “Fel rhan o’n gweledigaeth, rydyn ni am weld holl sefydliadau ac addysgwyr y DU yn cynnig canllaw ystyrlon i gyflawni amrywiaeth economaidd-gymdeithasol, tegwch a chynhwysiant. Felly, rydyn ni’n falch iawn o weld y camau a gymerwyd gan y sefydliadau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni.”

Mae’r Coleg wedi cyrraedd y rhestr fer am ei waith mewn perthynas ag ymgorffori symudedd cymdeithasol ym meysydd allweddol o fewn ei ddarpariaeth, gan gynnwys prentisiaethau a’r rhaglen ailsefydlu.

Dywedodd Mark Jones MBE, Prif Swyddog Gweithredol Coleg Gŵyr Abertawe: “Mae ymgorffori symudedd cymdeithasol ym meysydd allweddol o fewn ein darpariaeth a’n harferion yn cyd-fynd â strategaeth a chenhadaeth graidd ein Coleg. Mae’n adlewyrchiad o’n hymrwymiad i greu cyfleoedd cyfartal i bawb - ac rydym yn hynod o falch i gael ein cydnabod am y gwaith hwn trwy gyrraedd y rhestr fer eleni ar gyfer un o wobrau Symudedd Cymdeithasol y DU.”

Bydd panel barnu annibynnol yn dewis yr enillwyr a fydd yn cynnwys unigolion blaenllaw o feysydd megis busnes, elusennau a’r sector cyhoeddus. Arglwydd raglaw Llundain, syr Kenneth Olisa OBE fydd yn cadeirio’r panel. 

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn digwyddiad gwobrwyo fawreddog yn Llundain ar ddydd Iau, Hydref 3, 2024.