Daw Coleg Gŵyr Abertawe i’r amlwg unwaith eto fel sefydliad addysgol blaengar, wrth iddo lansio llwybr prentisiaeth newydd sbon mewn Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr (DCD), gan sefydlu ei hun fel y darparwr cyntaf a’r unig ddarparwr yng Nghymru sy’n cynnig y rhaglen arloesol hon. Gydag ymroddiad i arloesi a meithrin talentau, mae’r Coleg yn nodi carreg filltir arwyddocaol trwy gyflwyno cwricwlwm sy’n cyd-fynd â gofynion diwydiannau cyfoes.
Mae’r rhaglen DCD newydd, wedi’i hariannu’n llawn, yn dyst i ymrwymiad Coleg Gŵyr Abertawe i lunio dyfodol addysg alwedigaethol. Datblygwyd y llwybr hwn trwy gydweithio’n agos ag arbenigwyr ac arweinwyr diwydiant, sydd hefyd yn dyst i ymrwymiad y sefydliad i aros ar flaen y gad gyda’r cynigion addysgol mwyaf arloesol. Er mwyn lansio’r llwybr newydd hwn, nododd Coleg Gŵyr Abertawe yr achlysur gyda digwyddiad brecwast ar 23 Tachwedd yn Ysgol Fusnes Plas Sgeti, gyda’r nod o gyflwyno’r llwybr i ddarpar ddysgwyr a chyflogwyr diwydiant.
Bwriad y llwybr prentisiaeth arloesol hwn yw arfogi prentisiaid â set sgiliau gynhwysfawr sy’n cyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol â phrofiad ymarferol. Yn seiliedig ar egwyddorion dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, mae’r cwricwlwm yn rhoi pwyslais ar ddatrys problemau, creadigrwydd, a’r gallu i greu profiadau di-dor i ddefnyddwyr ar draws amrywiol lwyfannau a thechnolegau. Mae’r cwrs yn helpu timau dylunio a datblygu i greu gwefannau a chymwysiadau hynod ddefnyddiadwy a hygyrch trwy ddefnyddio data, nodau ac adborth defnyddwyr.
"Rydyn ni’n falch iawn o gyflwyno’r rhaglen brentisiaeth arloesol hon mewn Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr. Mae’n tanlinellu ein hymrwymiad i ddarparu addysg arloesol sy’n berthnasol i fyd diwydiant," meddai Bruce Fellowes, Pennaeth Hyfforddiant Coleg Gŵyr Abertawe. "Gan mai ni yw unig ddarparwr y llwybr hwn, rydyn ni’n gallu cynnig profiad dysgu heb ai ail, gan rymuso ein prentisiaid i ffynnu mewn tirlun digidol sy’n datblygu’n barhaus.”
Mae’r brentisiaeth DCD, a achredir gan Agored Cymru, ar gael ar Lefelau 2, 3, a 4, ac mae’n cael ei gynnig gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Eisoes yn elwa ar y rhaglen newydd hon yw’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS), y mae’r Coleg wedi gweithio mewn partneriaeth â nhw i greu’r llwybr newydd hwn ac mae tri phrentis DCD eisoes wedi ymuno â’r cwmni.
“Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i Goleg Gŵyr Abertawe am ymateb mor gyflym i’r angen i greu a chyflwyno’r brentisiaeth newydd hon gyda thri phrentis newydd yn barod. Mae’n hyfryd gweld sut mae sefydliad addysg bellach yn cefnogi hyfforddiant galwedigaethol ac yn dangos ymroddiad nid yn unig i greu gwell cyfleoedd gyrfa yng Nghymru, ond hefyd y diwydiant digidol yn gyffredinol” meddai Lauren Power, Rheolwr Cynnyrch o CDPS.
“Mae’n braf gwneud y brentisiaeth hon gyda dau ddysgwr arall oherwydd rydyn ni’n dysgu gyda’n gilydd ar hyd y ffordd. Hefyd, mae James, ein tiwtor DCD, wedi bod yn gefnogol dros ben o’r cychwyn, yn ein harwain ni trwy bob cam, ac yn sicrhau ein llwyddiant ar y daith ddysgu ddigidol hon” – ychwanegodd Sarah Floyd, prentis CDPS.
Mae cyhoeddi’r llwybr prentisiaeth unigryw hwn wedi creu cyffro a disgwyliad mawr ymhlith darpar ddylunwyr a gweithwyr proffesiynol diwydiant. Mae cyflogwyr yn canmol y fenter hon am ei photensial i gynhyrchu cronfa dalentog o unigolion sy’n medru ateb anghenion cymhleth defnyddwyr modern trwy brofiad defnyddwyr arloesol.
“Yn gynyddol, mae byd busnes yn cydnabod gwerth Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr. Mae cwmnïau wrthi’n chwilio am weithwyr proffesiynol gyda’r sgiliau hyn i ennill mantais gystadleuol. Mae dilyn cwrs DCD gyda Choleg Gŵyr Abertawe felly yn agor llu o gyfleoedd gyrfa mewn meysydd fel dylunio profiad defnyddwyr, rheoli cynnyrch, a strategaeth ddigidol” meddai James Holloway, Hyfforddwr ac Aseswr ar gyfer Llwybrau Digidol, sy’n addysgu’r brentisiaeth newydd hon.
I wybod rhagor am Ddylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr, ewch i’r wefan yma, e-bostiwch hello@gcs.ac.uk neu ffoniwch 01792 284400.