Cafodd myfyrwyr ar amrywiaeth o gyrsiau celfyddydau creadigol a gweledol yng Ngholeg Gŵyr Abertawe gyfle gwych i gwrdd â chyflogwyr ac artistiaid yn ystod ail arddangosfa flynyddol Design 48, a gafodd ei chynnal ar gampysau Gorseinon a Llwyn y Bryn.
Datblygwyd y syniad y tu ôl i Design 48 gan y Coleg mewn partneriaeth â Rachael Wheatley o Waters Creative.
Yn gyfres o anerchiadau a sesiynau blasu ymarferol, cafodd Design 48 ei ddylunio i ysbrydoli dysgwyr a rhoi hwb i’w sgiliau cyflogadwyedd. Roedd hefyd yn ceisio codi eu dyheadau a’u hymwybyddiaeth o’r amrywiaeth eang o lwybrau addysgol a gyrfaol sydd ar gael iddynt o fewn y diwydiannau creadigol.
Yng Ngorseinon, aeth y myfyrwyr i anerchiadau gan amrywiaeth mawr o ffigurau ac ymarferwyr o fyd diwydiant gan gynnwys James Owen o Stori Cymru, artist cain Martin Robert Reed, Caroline Lane o Ffilm Cymru, a Rachael Wheatley.
Yn Llwyn y Bryn, cymerodd dysgwyr ran mewn gweithdai gyda’r artist cain Fran Williams, y darlunydd a’r dylunydd graffig Megan Pilcher King, y dylunydd dodrefn Angela Gidden MBE, y ffotograffydd Will Mason Jones, a llawer mwy.
“Rydyn ni’n teimlo ei bod hi’n bwysig i’n myfyrwyr gwrdd â chyflogwyr ac artistiaid fel rhan o’u cwrs Coleg ac felly roedden ni’n falch dros ben o gael cynifer o bobl ysbrydoledig iawn yn ymuno â ni eto eleni,” meddai Rheolwr Maes Dysgu'r Celfyddydau Gweledol, Kieran Keogh. “Yr hyn oedd yn arbennig o gyffrous y tro ‘ma oedd croesawu Fran a Megan yn ôl, dwy gyn-fyfyrwraig Llwyn y Bryn, a siaradodd mor bositif am eu cyfnod yma ac sydd yn ysbrydoliaeth i’n dysgwyr presennol.”
“Fel aelod balch o Fwrdd Cyflogwyr y Diwydiannau Creadigol, rydyn ni’n wirioneddol awyddus i feithrin talentau, nodi cyfleoedd i bobl ifanc, a darparu hyfforddiant a mentora,” ychwanegodd Rheolwr Maes Dysgu’r Celfyddydau Creadigol, Liz Edwards. “Diolch yn fawr iawn i’r sefydliadau a’r unigolion a ddaeth i’r Coleg, arwain gweithdai a sesiynau blasu, a darparu profiad cadarnhaol i’n dysgwyr.”
Cyfranwyr Design 48
Angela Gidden MBE
Arena Abertawe
Bill Taylor Beales
Claire Reid
Dawn Shackley
Ffilm Cymru
Ffion Denman
Fran Williams
Fresh Creative
Jessica Grady
Megan Pilcher King
Natalie Tucker
Nightmode Studio
Rich Thair
Martin Robert Reed
Music Factory
Stori Cymru
Waters Creative
Will Mason Jones