Skip to main content
Myfyrwyr

Adeiladu Talentau Digidol: Coleg Abertawe a Choleg Gŵyr Abertawe yn dathlu llwyddiant prentisiaethau

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn dathlu cyflawniadau pum prentis o dîm Gwasanaethau Digidol Cyngor Abertawe, sydd wedi cwblhau eu rhaglen brentisiaeth dwy flynedd sef Gweithiwr Proffesiynol Telathrebu. Mae pob un ohonynt wedi llwyddo i sicrhau cyfleoedd gyrfa o fewn y Cyngor, gan nodi carreg filltir sylweddol yn y bartneriaeth rhwng y Coleg a Chyngor Abertawe.

Yn ogystal â gwella’r tîm, mae’r bartneriaeth hon, a ddechreuodd dros ddwy flynedd yn ôl, hefyd wedi rhoi cyfleoedd datblygu proffesiynol i’r prentisiaid. Fe wnaeth y Coleg gefnogi’r Cyngor drwy gydol y broses, o’r marchnata a’r recriwtio i’r cymorth parhaus wedi’i deilwra a gefnogodd rolau dyddiol y prentisiaid.

Prentisiaid yn myfyrio ar eu taith

Dyma Lewis James, un o’r prentisiaid, yn rhannu ei brofiad:
"Dechreues i fy mhrentisiaeth ddwy flynedd yn ôl a’i chwblhau’n ddiweddar. Nawr, dwi’n dechrau rôl amser llawn gyda Thîm Rhwydwaith Cyngor Abertawe fel Cynorthwyydd TGCh. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gweithies i bedwar diwrnod yr wythnos gyda’r tîm a threulio un diwrnod yr wythnos yn y Coleg yn astudio cwrs Diploma Lefel 4 Gweithiwr Proffesiynol Telathrebu TG.

“Ces i brofiad ymarferol ar draws y timau Gweinydd, Cymorth Bwrdd Gwaith, a Gwasanaethau Rhwydwaith yn y Cyngor, a helpodd fi i gymhwyso’r hyn roeddwn i wedi’i ddysgu yn y Coleg i sefyllfaoedd gwaith go iawn. Roedd y cymorth gan y Cyngor a’r Coleg yn ardderchog."

Dyma Joshua Longhurst yn myfyrio ar ei daith:
"Yn ystod fy mhrentisiaeth, enilles i brofiad ymarferol amhrisiadwy fel rhan o dîm TG gweithredol, dysgu sgiliau gan staff hynod fedrus a chael cymorth eithriadol gan diwtoriaid. Trwy astudio cymhwyster Lefel 4 gyda Choleg Gŵyr Abertawe ces i gyfle i archwilio technolegau fel rhithwirio, rhwydweithio, a saernïaeth systemau. Nawr dwi’n edrych ymlaen i symud ymlaen i rôl TG amser llawn."

Soniodd Brandon Curran am effaith barhaol y brentisiaeth:
"Mae’r cyfuniad hwn o astudio a chymhwysiad yn y byd go iawn wedi bod yn amhrisiadwy, gan wella fy sgiliau technegol a rhoi hwb i fy hyder. Dwi’n edrych ymlaen i adeiladu ar y sylfaen gref hon yn y brifysgol, lle dwi’n bwriadu arbenigo ymhellach a datblygu fy arbenigedd."

Dywedodd Harvey Thomas:
"Yn ystod fy mhrentisiaeth, adeilades i sylfaen dechnegol gref sy’n ategu fy rôl fel Datblygwr Apiau Iau. O raglennu i ddiogelwch systemau, datblyges i sgiliau ymarferol dwi’n eu defnyddio nawr i greu a gwella datrysiadau meddalwedd."

Ychwanegodd Logan Monday:
"Mae cwblhau fy mhrentisiaeth TG gyda Chyngor Abertawe a Choleg Gŵyr Abertawe wedi bod yn fuddiol dros ben. Mae wedi rhoi sgiliau ymarferol a gwybodaeth i mi sy’n hanfodol ar gyfer gyrfa lwyddiannus ym maes technoleg. Roedd y cymorth a ges i gan fy nhiwtor yn amhrisiadwy, gan helpu fi i fynd trwy’r rhaglen yn hyderus. Dwi’n edrych ymlaen i barhau i wneud cynnydd ym maes TG ac ychwanegu at y sgiliau dwi wedi’u dysgu."

Dathlu llwyddiant

Mae Stella Elphick, Rheolwr Masnachol Digidol Coleg Gŵyr Abertawe wrth ei bodd â’r llwyddiant, dywedodd: “Mae hyn yn enghraifft wych o sut y gall prentisiaethau lywio arloesedd, datblygu talent, ac ychwanegu gwerth go iawn at sefydliad. Rydyn ni’n falch dros ben o weld llwyddiant y bartneriaeth hon ac yn edrych ymlaen i gynorthwyo mwy o gyflogwyr i gryfhau eu gweithlu trwy bartneriaethau."

Dywedodd Andrea Lewis, Cyd-Ddirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau: “Gwych iawn yw gweld y cynllun prentisiaethau hwn yn cael ei gwblhau’n llwyddiannus o fewn ein tîm Gwasanaethau Digidol, sy’n anelu at feithrin gyrfaoedd proffesiynol mewn gwasanaethau cyhoeddus. Roedd y pum prentis wedi arddangos talent ragorol. Mae ymroddiad a brwdfrydedd y prentisiaid a’r timau cymorth wedi cyfrannu’n sylweddol at lwyddiant y rhaglen.”

Mae’r bartneriaeth hon rhwng Cyngor Abertawe a Choleg Gŵyr Abertawe yn enghreifftio sut y gall buddsoddiad strategol mewn prentisiaethau roi sylw i fylchau sgiliau wrth ddarparu ffrwd gynaliadwy o dalent ar gyfer y dyfodol.

Cefnogi twf digidol

Mae portffolio digidol Coleg Gŵyr Abertawe yn grymuso sefydliadau ag amrywiaeth eang o raglenni hyfforddi, gan roi modd i fusnesau ffynnu mewn tirlun digidol sy’n datblygu drwy’r amser.

I gael rhagor o wybodaeth am brentisiaethau neu archwilio opsiynau hyfforddiant digidol Coleg Gŵyr Abertawe, ewch i Cyflogwyr | CGA