Mae’r gystadleuaeth sgiliau adeiladu fwyaf a hynaf yn y DU yn dychwelyd, wrth i Goleg Gŵyr Abertawe baratoi i groesawu 80-100 myfyriwr ar gyfer cymal rhanbarthol De Cymru SkillBuild 2023.
Cyflwynir cystadleuaeth SkillBuild gan Fwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) ac mae’n tynnu sylw at rai o’r talentau disgleiriaf, wrth i ddysgwyr a phrentisiaid hynod fedrus fynd benben â’i gilydd i gael eu coroni yn enillydd yn eu dewis grefft. Bydd cystadleuwyr yn cael eu profi ar eu galluoedd technegol, rheolaeth amser, datrys problemau a sgiliau gweithio dan bwysau. Fodd bynnag, mae’r gystadleuaeth nodedig yn dod â manteision lawer, ac mae wedi’i phrofi i wella sgiliau technegol a chyflogadwyedd, a chynyddu opsiynau gyrfa.
Mae 15 rhagbrawf rhanbarthol yn cael eu cynnal ledled y DU rhwng 27 Ebrill a diwedd mis Mehefin. Yn dilyn y rhagbrofion rhanbarthol, bydd yr wyth cystadleuydd sydd â’r sgôr orau o bob categori crefft yn cael eu gwahodd i gymryd rhan yn rownd derfynol genedlaethol y DU. Am y tro cyntaf, bydd y rownd derfynol genedlaethol eleni yn cael ei chynnal yn Arena Marshall ym Milton Keynes ar 21, 22 a 23 Tachwedd 2023. Mae’r arena eisoes wedi croesawu’r Pencampwriaethau Badminton Cenedlaethol, twrnameintiau dartiau a chyngherddau cerdd amrywiol. Mae adroddiad Rhwydwaith Sgiliau Adeiladu (CSN) diweddar y CITB yn datgan y bydd angen bron 225,000 o weithwyr ychwanegol i ateb y galw am waith adeiladu yn y DU erbyn 2027. Noda hefyd y disgwylir i adeiladu barhau i fod yn sector lle mae galw mawr am weithwyr, er gwaethaf yr ansicrwydd economaidd cyfredol. Mae SkillBuild yn cwmpasu 10 crefft wahanol ac mae’n gyfle gwych i newid barn a hyrwyddo’r amrywiaeth helaeth o rolau sydd ar gael.
Meddai Sammy Young o Gymru, a gyrhaeddodd rownd derfynol SkillBuild 2022: “Roedd ennill medal arian i Gymru yn y rowndiau terfynol cenedlaethol y llynedd [2021] wedi helpu fi i sicrhau swydd mewn gweithdy saer, gan dderbyn comisiynau ar gyfer prosiectau pwrpasol a threftadaeth. Penderfynais i gystadlu eto eleni i brofi fy hun, a dwi hefyd yn mwynhau’r sesiynau hyfforddi i hogi sgiliau penodol. Y cyngor y byddwn i’n ei roi i unrhyw un sy’n ystyried dychwelyd i fyd addysg neu newid gyrfa, yw ewch amdani! Bellach mae gen i’r ffocws, y ddisgyblaeth a’r gallu i ganolbwyntio nad oedd gen i pan oeddwn i’n iau. Mae’n fendigedig a dwi byth eisiau rhoi’r gorau i ddysgu.”
Meddai Tim Balcon, Prif Weithredwr CITB: “Dwi bob amser yn edrych ymlaen at ragbrofion rhanbarthol SkillBuild, oherwydd mae’n codi cwr y llen ar yr amrywiaeth neilltuol o dalentau ifanc sy’n dod trwodd i’r diwydiant. Mae SkillBuild yn fenter ragorol sy’n ceisio denu amrywiaeth o recriwtiaid, ac o ystyried y bwlch sgiliau ar hyn o bryd, mae’n gosod mwy o bwysigrwydd eto ar y gystadleuaeth a’i gallu i hyrwyddo gyrfaoedd adeiladu i gynulleidfa ehangach.
“Mae SkillBuild yn helpu pobl ifanc i dyfu yn bersonol, magu hyder a chynyddu sgiliau cymdeithasol, ond mae hefyd yn eu cynorthwyo nhw yn broffesiynol drwy ddatblygu eu sgiliau technegol a chyflogadwyedd. Er ei fod yn brofiad heriol, os ydych chi o ddifrif am yrfa mewn adeiladu, mae SkillBuild yn gyfle ardderchog. Dwi’n dymuno pob lwc i’r holl gystadleuwyr yn y rhagbrofion eleni!”
Meddai Hannah Pearce, Rheolwr Maes Dysgu yr Amgylchedd Adeiledig yng Ngholeg Gŵyr Abertawe: “Mae’n anrhydedd mawr i ni groesawu rownd derfynol ranbarthol De Cymru cystadleuaeth SkillBuild i Gampws Llys Jiwbilî. Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu cystadleuwyr mewn gosod brics, gwneud celfi, gwaith coed, saernïaeth, peintio ac addurno, plastro a systemau waliau sychion, gwaith saer maen a theilsio waliau a lloriau.
“Bydd hi’n ddiwrnod cyffrous i gyfranogwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd; bydd nifer o gontractwyr yn ymuno â ni a byddwn ni’n cynnig gweithgareddau blasu gan ddefnyddio offer VR a ddarperir gan QWIC!
“Drwy gymryd rhan yn y cystadlaethau hyn, mae’r myfyrwyr yn cael cyfle i wella eu sgiliau yn y grefft o’u dewis, gwella sgiliau rheoli amser, gwella galluoedd tynnu a darllen cymhleth, rhwydweithio â gweithwyr proffesiynol diwydiant, a magu hyder.
“Hoffwn i ddymuno pob lwc i’r holl gyfranogwyr, a dwi’n edrych ymlaen at eich croesawu i Goleg Gŵyr Abertawe.”
Hoffai CITB ddiolch i holl noddwyr gwych SkillBuild eleni, sy’n cynnwys Albion Stone, BAL, Band of Builders, British Gypsum, Institute of Carpenters, Crown Paints, Forterra, The Keystone Group, Nicholls & Clarke, NFRC, Schluter, SPAX, Stabila, Stone Federation, TARMAC, The Tile Association, The Worshipful Company of Tylers and Bricklayers a Weber.
I wybod rhagor am SkillBuild a’r rhagbrofion rhanbarthol, ewch i Go Construct.
I wybod rhagor am cyrsiau Plymwaith ac Adeiladu Coleg Gŵyr Abertawe, ewch i'r wefan.