Bu’n ddiwrnod o ddathlu ar 18 Mai wrth i’n myfyrwyr rhyngwladol yr ail flwyddyn ymgasglu yn Ysgol Fusnes Plas Sgeti.
Daeth myfyrwyr o bedwar ban byd, o wledyddd fel Tsieina, Yr Eidal, Cambodia a Chorea, at ei gilydd ar gyfer cinio a seremoni graddio.
Yn siarad am y diwrnod arbennig, dywedodd Pennaeth yr Adran Ryngwladol, Ruth Owen Lewis: “Mae datblygiad rhyngwladol yn parhau i fod ar frig yr agenda yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. Mae ein myfyrwyr rhyngwladol yn dod o bob cwr o’r byd, gan ddod â’u diwylliannau a’u safbwyntiau gwahanol i’r Coleg, gan greu, yn ei dro, amgylchedd cyfoethog ac amrywiol i bawb.”
Ychwanegodd: “Mae seremoni graddio ein myfyrwyr rhyngwladol yn dathlu eu llwyddiannau a’u cyfnod nhw yma yn Abertawe – diwedd un bennod a dechrau eu hantur nesaf.”
Dywedodd y myfyriwr Peirianneg Gweithgynhyrchu Uwch, Nick, o Gambodia “Wnes i fwynhau’r digwyddiad yn fawr iawn. Wnes i gwrdd â llawer o bobl gyfeillgar ac mae’r cyfleuster yn hyfryd. Mae’r cwrs yn dod i ben a dwi’n hoffi ein bod ni wedi cael cyfle i ddod at ein gilydd cyn i ni wahanu.”
Ychwanegodd y myfyriwr U2, Minju, o Gorea: “Roedd yn teimlo fel ffordd o nodi diwedd fy mhrofiad coleg. Dwi’n edrych ymlaen at y cam nesaf yn fy mywyd, ond mae’n drist hefyd oherwydd dwi wir wedi mwynhau yma yn Abertawe ac mae fy holl ffrindiau yn gadael i fynd i’w prifysgolion nhw. Gallwn ni gwrdd â’n gilydd i ddala lan felly mae hwnna yn gyffrous.”
“Wnes i fwynhau’r cinio graddio mas draw. Roedd y bwyd yn dda iawn a ches i amser da iawn!” dywedodd Sofia, myfyriwr cyfnewid UG o’r Eidal.
Dywedodd y Tiwtor Personol, Terry Summerfield: “Mae’r myfyrwyr eleni yn glod nid yn unig i’r Coleg ond iddyn nhw eu hunain a’u gwlad. Maen nhw i gyd wedi bod yn llysgenhadon ardderchog i’r Coleg yn ystod yr hyn sydd wedi bod yn ddwy flynedd anodd i bawb oherwydd cyfyngiadau covid.”
Ychwanegodd: “Mae’r holl fyfyrwyr wedi cael cynigion gwych gan brifysgolion rhagorol ledled y wlad ac rydyn ni’n dymuno pob llwyddiant ac hapusrwydd iddyn nhw wrth iddyn nhw fentro i’r cam nesaf yn eu bywydau.”