Yn dilyn y canllawiau diweddaraf gan Brif Weinifog Cymru mewn perthynas ag addysg, ni fydd unrhyw newidiadau i’n mesurau Covid presennol yn y Coleg cyn hanner tymor.
Mae hyn yn golygu bod y mesurau diogelwch canlynol yn dal i fod ar waith:
- Golchi’ch dwylo, gorchuddio’ch wyneb, gwneud lle
- Gwisgo gorchuddion wyneb ym mhob man, gan gynnwys ystafelloedd dosbarth, oni bai eich bod wedi’ch eithrio
- Cadw pellter corfforol
- Awyru
- Fe’ch cynghorir i ddefnyddio profion llif unffordd deirgwaith yr wythnos.
Yn amlwg, mae cynigion i ddileu gwisgo gochuddion wyneb mewn ystafelloedd dosbarth o ddydd Llun 28 Chwefror – ond bydd y penderfyniad terfynol ar hyn yn cael ei wneud yn lleol mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru ac ysgolion lleol.
Felly, yr wythnos nesaf, byddwn ni’n parhau i weithio gyda’n tîm iechyd cyhoeddus lleol a chyfleu ein penderfyniad cyn gynted ag y bo modd.
Diolch am eich cymorth parhaus wrth helpu i leihai trosglwyddo’r feirws.
Mark Jones
Pennaeth