Mae cogydd eiconig o Brydain wedi rhoi cipolwg sydyn y tu ôl i’r llenni i grŵp o fyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe ar ei fwyty yn Abertawe yn ogystal â rhoi blas iddynt ar ei yrfa ysbrydoledig.
Fe wnaeth Marco Pierre White, a agorodd ei Steakhouse Bar & Grill y llynedd yn y J-Shed yn SA1, gwrdd â phedwar myfyriwr o adran Arlwyo a Lletygarwch y Coleg.
Cafodd Mr Pierre White drafodaeth anffurfiol gyda’r myfyrwyr am ei yrfa, y diwydiant a rhoddodd awgrymiadau a chynghorion amhrisiadwy o’r grefft.
Gyda diddordeb brwd yn rhaglenni dysgu’r Coleg, roedd Marco wedi sgwrsio â’r myfyrwyr am y Coleg, uchelgeisiau’r myfyrwyr, a’r angerdd a’r ymrwymiad sydd eu hangen i weithredu ar lefel uchel yn y diwydiant.
“Yn y Coleg, rydyn ni bob amser yn ceisio rhoi’r profiadau ymarferol gorau oll i’n myfyrwyr er mwyn sicrhau eu bod nhw wedi paratoi’n dda ar gyfer cam nesaf eu gyrfaoedd,” dywedodd Mark Jones, Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe. “Felly, rydyn ni i gyd wrth ein bodd bod rhai o’n myfyrwyr Arlwyo a Lletygarwch yn cael y cyfle hwn i gwrdd a dysgu oddi wrth un o’r arweinwyr mwyaf adnabyddus ac ysbrydoledig yn y maes hwn.”