Roedd canol dinas Abertawe yn byrlymu o gyffro ar Sul y Tadau wrth i Krazy Races gymryd drosodd y strydoedd. Y digwyddiad, a noddwyd gan Goleg Gŵyr Abertawe, oedd ras bocs sebon gyntaf Abertawe, lle gwelwyd cyfranogion mewn gwisg ffansi feiddgar ac yn chwyrlïo o gwmpas strydoedd y ddinas mewn certi geido a wnaed gartref.
Yn ogystal â chefnogi’r digwyddiad, aeth Coleg Gŵyr Abertawe yr ail filltir drwy gofrestru tîm o’u hadran peirianneg hyglod yn y gystadleuaeth hefyd.
Roedd y tîm ‘In it to Win It’ yn cynnwys pedwar myfyriwr Peirianneg Lefel 3 o Gampws Gorseinon a thri darlithydd/technegydd peirianneg, gyda’r nod o godi arian ar gyfer yr elusen JobChange.
Fe wnaeth y myfyriwr Joshua Parsons, capten y tîm, roi gwybodaeth werthfawr am ymdrechion ymroddedig y tîm wrth adeiladu eu cart geido a’u gweledigaeth gyffredinol ar gyfer y digwyddiad: “O fewn y ddau fis diwethaf, rydyn ni fel tîm wedi llwyddo i gynhyrchu cart geido ac rydyn ni’n credu y bydd yn hynod gystadleuol ac yn ddifyr iawn i’r dorf.
“Mae ein cerbyd wedi cael ei ysbrydoli gan hen gerbydau a dyluniadau aerodynamig, ac mae’n cynnwys murlun nodweddiadol o siarc ar gôn y trwyn fel y byddech chi’n ei weld ar awyrennau’r ail ryfel byd a cheir rasio’r 1950au. Rydyn ni wedi defnyddio arddull gyson ar ein holl ddyluniadau achos bydd aelodau o’n tîm hefyd yn ymddangos mewn gwisgoedd siarc chwyddadwy a byddan nhw’n dilyn y cart wrth iddo fynd ar hyd y trac.
“Yr elusen rydyn ni wedi’i dewis yw JobChange. Mae’n elusen ddi-elw sy’n cynorthwyo pobl yn eu dyheadau gyrfa a’r rhai sy’n gobeithio gwireddu eu breuddwydion. Rydyn ni’n credu bod yr elusen hon yn berthnasol i ni a’r dyheadau sydd gennyn ni fel tîm, o ystyried ein bod ni’n fyfyrwyr coleg sy’n gobeithio symud ymlaen i fyd gwaith neu addysg.”
Roedd perfformiad y tîm ar y diwrnod yn rhagorol, gan ddod yn 7fed yn y ras ac ennill ‘Dyluniad Cert Gorau Krazy’.
Yn ychwanegu at y cyffro, roedd Chris Dower, hyfforddwr Cynnal a Chadw Beiciau yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, wrth law i gynnig trwsio a gwasanaethu certi a beiciau’r gwylwyr. Sicrhaodd ei arbenigedd y gallai cyfranogwyr fwynhau’r rasys heb unrhyw broblemau mecanyddol.
Roedd stondinau dros dro Coleg Gŵyr Abertawe ger Sgwâr y Castell yn hyb cyfleus lle gallai gwylwyr gael gwybodaeth am opsiynau hyfforddi’r Coleg, llwybrau ymadawyr ysgol a chyrsiau addysg oedolion. Roedd dau gynrychiolydd o Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, Owen Davies (Cydlynydd Ymgysylltiad Cyflogadwyedd) a Nicola Berry (Hyfforddwr Gyrfa) hefyd ar y stondin i roi cyngor i’r cyhoedd ar opsiynau cyflogadwyedd.
Roedd digwyddiad Krazy Races yn taflu goleuni ar y gymuned a chreadigrwydd yn Abertawe, ac oherwydd y cyfuniad o rasys difyr, gwisgoedd a nodau elusennol roedd yn ddiwrnod i’w gofio i bawb oedd yn ymwneud ag ef.