Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch iawn o agor ei ddrysau am gyfres o nosweithiau agored ar y campws ym mis Mawrth.
Os ydych yn ystyried dod, cofrestrwch eich diddordeb o flaen llaw ar ein tudalen we ddynodedig.
Cofiwch hefyd y byddwn ni’n gofyn i bawb sy’n dod i’n nosweithiau agored:
- Wneud eich ffordd i brif fynedfa y campws pan gyrhaeddwch
- Gwisgo gorchudd wyneb yn ystod eich ymweliad (oni bai eich bod wedi’ch heithrio’n feddygol)
- Cadw pellter cymdeithasol oddi wrth eraill bob amser
- Diheintio eich dwylo pan gyrhaeddwch ac mor aml ag y gallwch tra byddwch yn y Coleg
- Cyfyngu nifer y bobl rydych yn dod â nhw gyda chi, os yw’n bosibl.
Y dyddiadau yw:
- Nos Lun 7 Mawrth – Gorseinon
- Nos Fercher 9 Mawrth – Llys Jiwbilî
- Nos Lun 14 Mawrth – Tycoch
- Nos Lun 14 Mawrth – Ysgol Fusnes Plas Sgeti
- Nos Fawrth 15 Mawrth – Llwyn y Bryn
Mae’r holl nosweithiau agored yn dechrau am 5.30pm ac yn gorffen am 7.30pm.
Os na allwch ddod i’n nosweithiau agored, peidiwch â phoeni. Byddwn ni’n agor ein hystafelloedd sgwrsio ar-lein ar y wefan hon ar 16 Mawrth ac felly gallwch ofyn cwestiynau bryd hynny.