Yn ddiweddar, fe wnaeth Coleg Gŵyr Abertawe gomisiynu artist i beintio tri blwch telathrebu ger eu campysau, dau flwch yn Sketty Green, a’r llall yn Nhycoch.
Bwriad y prosiect, a redir ar y cyd â’r Cynghorwyr Mike Day a Cheryl Philpott, yw gwella’r ymdeimlad o gymuned ledled y campysau. Ffion Nowlenn, un o gyn-fyfyrwyr y Coleg oedd yn gyfrifol am beintio’r blychau telathrebu. Mae hi bellach yn gweithio i gwmni lleol o’r enw Fresh Creative Co.
“Rydyn ni’n falch iawn o fod wedi ariannu’r gwaith o beintio blychau telathrebu,”meddai Nick Brazil, Dirprwy Bennaeth Coleg Gŵyr Abertawe. “Mae Ffion, a weithiodd gyda’n dysgwyr Celfyddydau Gweledol yn gynharach yn y flwyddyn wedi creu dyluniadau gwych.”
Mae’r gwaith yn seiliedig ar elfennau o’r Coleg a’r ardal leol. Mae blwch Tycoch yn cynnwys dyluniad geometrig ac yn arddangos y lliwiau sydd i’w gweld ar logo Coleg Gŵyr Abertawe. Ar flaen un blwch yn Sketty Green, mae peintiad o Ysgol Fusnes Plas Sgeti a’i choed cwmpasog. Ar ochr arall y blwch mae yna beintiadau prydferth o flodau ceirios. Mae’r llall yn cynnwys dail derw, mes a gwiwerod, sy’n adlewyrchu enw a nodweddion arbennig yr ardal - Derwen Fawr.
“Fe wnes i fwynhau gweithio gyda’r themâu a dderbyniais,” meddai Ffion. “Mae lliwiau yn chwarae rhan flaenllaw iawn yn fy ngwaith, a lle bo’n bosib, rwy’n hoffi cynnwys y tymhorau yn fy ngwaith, ac fe wnes i gynnwys elfen o’r Hydref yn un o fy nyluniadau - y goeden dderw.
“Ysbrydolwyd y blwch gyferbyn â champws Tycoch gan liwiau’r logo. Roeddwn i am gynnwys lliwiau llachar fel prif nodwedd, a dyna pam fe ddewisais ddyluniad geometrig.
“Ysbrydolwyd blychau Plas Sgeti gan yr holl droeon rydw i wedi cerdded drwy Barc Singleton, gan weld y plas drwy’r coed. Mae’r blodau ceirios yn deyrnged i’r goeden a arferai sefyll yn Sketty Green. Roedd y fenyw sy’n byw gyferbyn eisiau atgof bach o’r goeden honno.
“Pleser yw gweithio yn ardal y Sgeti. Rydw i wedi cwrdd â llawer o bobl leol hyfryd a braf yw medru harddu’r strydoedd ag ychydig o liw.” meddai.
“Rydyn ni i gyd wedi bod trwy gyfnod anodd yn ddiweddar, felly braf yw gweld yr ardal yn cael ei harddu gan baentiad mor hyfryd!” meddai’r Cynghorydd Mike Day. “Mae pawb yn dwlu ar waith Ffion ac yn edmygu ei sgiliau. Rydym hefyd yn ddiolchgar i Goleg Gŵyr Abertawe am eu nawdd. Dyma enghraifft o ymrwymiad y Coleg i gymuned Sgeti, ac mae gwaith Ffion yn enghraifft ardderchog o sut mae’r Coleg yn datblygu doniau a sgiliau eu myfyrwyr.”