Yn ddiweddar fe wnaeth Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford gadarnhau – o ddydd Gwener 28 Ionawr - y bydd Cymru yn symud i lefel rhybudd sero, oni bai bod y sefyllfa iechyd cyhoeddus yn newid er gwaeth.
Ond beth mae hyn yn ei olygu i’r Coleg?
Yn ystod tymor yr hydref, mae niferoedd yr achosion wedi bod yn gyson isel ymhlith ein cymuned o fyfyrwyr.
Mae hyn o ganlyniad i’r mesurau diogelwch sydd gennym ar waith a’ch cydweithrediad o ran sicrhau ein bod ni i gyd yn gweithio gyda’n gilydd i atal trosglwyddo’r feirws.
Felly, o ystyried bod Cymru bellach yn symud i lefel rhybudd sero, ac ar ôl ymgynghori â Grŵp Rheoli Digwyddiad y rhanbarth, undebau llafur staff ac undeb y myfyrwyr, ni fyddwn yn gweithredu gyda’r model grwpiau cyswllt mwyach. Mae hyn yn golygu na fydd rhaid i fyfyrwyr aros mewn grwpiau cyswllt. Bydd hyn yn dechrau o ddydd Llun 31 Ionawr.
Fodd bynnag, bydd y mesurau diogelwch canlynol yn parhau i fod ar waith:
- Gwisgo gorchuddion wyneb yn yr holl fannau cymunol, ac mewn ystafelloedd dosbarth
- Cadw pellter cymdeithasol oddi wrth eraill
- Golchi a diheintio dwylo
- Defnydd rheolaidd o brofion llif unffordd deirgwaith yr wythnos
- Awyru yn yr holl ystafelloedd dosbarth a mannau cymunol.
Byddwn ni’n parhau i gynnal asesiadau risg yn ein hamgylcheddau dysgu yn erbyn ein cynlluniau rheoli haint covid, ac rydyn ni’n ymrwymedig i sicrhau y bydd unrhyw newidiadau pellach yn cael eu hystyried trwy ddull pwyllog, graddol ac wedi’i gynllunio yn unig.
Gyda’r cyfyngiadau’n cael eu codi’n araf, ac wrth i ni symud yn agosach fyth i’r gwanwyn, byddwch cystal â pharhau i ddilyn y mesurau diogelwch sydd gennym ar waith a gobeithio, rywbryd yn y dyfodol agos, y byddwn ni’n gallu lleihau’r rhain ymhellach.
Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad arall ar 10 Chwefror, a byddwn ni’n cyfleu unrhyw newidiadau pellach i chi bryd hynny.
Diolch am eich cymorth parhaus yn ystod y cyfnod heriol hwn.
Mark Jones
Pennaeth