Roedd y cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ddydd Gwener diwethaf yn glir y byddai unrhyw benderfyniad am ostyngiadau pellach o ran cyfyngiadau Covid yn cael ei drafod yn lleol o hyn ymlaen, gan ddefnyddio’r Fframwaith Penderfyniadau Rheoli Heintiau Lleol.
Felly, yr wythnos hon rydym wedi cwrdd â’n Tîm Rheoli Digwyddiadau Rhanbarthol a chydweithwyr addysg yn ein colegau lleol a gallwn gadarnhau, o 28 Chwefror, y bydd gorchuddion wyneb yn cael eu tynnu ym mhob ystafell ddosbarth a gweithdy.
Sylwch y bydd angen parhau i wisgo gorchuddion wyneb ym mhob ardal gymunol ar ôl hanner tymor.
Yn amlwg, mae digon o drafodaethau yn digwydd ynghylch gostyngiadau pellach posibl yn y dyfodol agos a, phan fydd unrhyw benderyniadau’n cael eu gwneud, byddwn yn rhoi gwybod i chi. Ond am y tro, y newid mewn gorchuddion wyneb mewn mannau addysgu yw’r unig newid a fydd yn berthnasol o 28 Chwefror.
Mae nifer yr achosion positif o Covid yn Abertawe - yn enwedig ymhlith oedolion - yn parhau i fod yn gymharol uchel. Rwy’n falch o’ch hysbysu bod ein ffigurau ni yn y Coleg wedi bod yn isel hyd yma ac rydym yn awyddus iddynt aros felly.