Yfory, dydd Iau 6 Ionawr, byddwn ni’n croesawu pob un o’n myfyrwyr yn ôl i’r Coleg.
Gan weithio’n agos o fewn y canllawiau a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru a’n tîm iechyd cyhoeddus lleol yn Abertawe, byddwn ni’n parhau i flaenoriaethu addysgu wyneb yn wyneb cymaint ag sy’n bosibl, a chymryd agwedd bositif tuag at leihau trosglwyddo’r feirws.
Grwpiau cyswllt
I bob myfyriwr byddwn ni’n dychwelyd i’r model grwpiau cyswllt a ddefnyddion ni yn llwyddiannus yn 2020.
Mae hyn yn golygu y bydd myfyrwyr yn aros gyda’i gilydd mewn grwpiau cyswllt drwy gydol y diwrnod, er enghraifft, bydd cyrsiau Safon Uwch gwahanol yn aros ar ddiwrnodau gwahanol.
Yn ogystal, byddwn ni’n gobeithio lleihau cyswllt pan fo’n bosibl o fewn y grwpiau cyswllt hyn - er enghraifft, defnyddio’r ystafell ddosbarth gyfan.
Newidiadau yng ngoleuni’r brechiadau
Mae un newid pwysig ers hydref 2020.
Oherwydd y cynnydd mewn brechiadau, os ydych yn fyfyriwr dan 18 oed sydd wedi cael y ddau frechiad, ni fydd rhaid i chi hunanynysu os ydych yn dod i gyswllt ag achos positif.
Os oes symptomau gan unrhyw fyfyriwr neu os yw wedi cael prawf positif bydd rhaid i’r myfyriwr hunanynysu a dilyn cyngor gan wasanaeth Tracio, Olrhain a Diogelu GIG.
Mae symptomau’n cynnwys:
tymheredd uchel
peswch newydd, parhaus
colli’r gallu i arogli neu flasu
Gorchuddion wyneb
Rhaid i’r holl fyfyrwyr wisgo gorchuddion wyneb yn yr ystafell ddosbarth ac yn y mannau cymunol oni bai eu bod yn cadw pellter cymdeithasol neu wedi’u heithrio.
Yn achos asesiadau sy’n dod, nid oes rhaid gwisgo gorchuddion wyneb os yw’n bosibl cadw pellter cymdeithasol. Fodd bynnag, os yw’r asesiadau’n digwydd yn y dosbarth, rhaid gwisgo gorchuddion wyneb, oni bai bod y myfyrwyr wedi’u heithrio.
Awyru, glanhau a phrofi
Byddwn ni’n dilyn y Canllawiau ar gyfer Colegau a’r Fframwaith Rheoli Diwygiedig, a byddwn ni hefyd yn canolbwyntio ar awyru a glanhau.
Byddwn ni’n parhau i annog myfyrwyr i olchi a diheintio eu dwylo’n rheolaidd.
Byddwn ni’n annog staff a myfyrwyr i ddefnyddio profion llif unffordd yn rheolaidd (tair gwaith yr wythnos). Mae’r rhain i’w cael yn llyfrgelloedd y Coleg ar ddechrau ac ar ddiwedd y diwrnod Coleg.
Wrth gwrs, gallai’r sefyllfa hon newid ar unrhyw adeg yn enwedig os bydd rhaid i rai o’n staff hunanynysu. Os digwydd hyn, efallai y bydd rhaid i ni ddefnyddio dull addysgu mwy cyfunol neu ar-lein.
Cyfleusterau arlwyo
Am amrywiaeth o resymau, mae cyfleusterau arlwyo ar y campws yn debygol o fod yn gyfyngedig.
Rydyn ni’n annog staff a myfyrwyr i ddod â’u ciniawau/byrbrydau eu hunain gyda nhw os yw’n bosibl.
Rydyn ni’n parhau i gadw cyswllt rheolaidd â Llywodraeth Cymru ac os oes unrhyw newidiadau pellach – gan gynnwys newidiadau i asesiadau – byddwn ni’n rhoi gwybod i chi wrth gwrs.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, mae adran Cwestiynau Cyffredin ar wefan y Coleg.
Rydyn ni hefyd yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau ac rydyn ni’n awgrymu eich bod yn e-bostio info@gcs.ac.uk
Cofion
Mark Jones, Pennaeth