Chymwysterau mewn maes arbenigol – Profi Anninistriol (NDT). Mae’r Drindod Dewi Sant wedi dod yn ganolfan fyd-eang ar gyfer addysgu, ymchwil a datblygu academaidd ym maes Profi Anninistriol (NDT). Ystyrir NDT yn hanfodol ar gyfer diogelwch awyrennau, gosodiadau olew ar y môr, piblinellau nwy, rheilffyrdd, gweithiau cemegol, gorsafoedd pŵer, strwythurau peirianneg sifil ac amrywiaeth eang o gynhyrchion diwydiannol. Wrth i’r dechnoleg ddatblygu, mae cymwysiadau pellach yn dod i'r amlwg, er enghraifft, ym maes meddygaeth ac mewn profion ar-lein ac all-lein ar gyfer rheoli ansawdd yn y diwydiant gweithgynhyrchu. Mae hyn yn arbennig o wir yn y sectorau modurol ac electroneg.
Cofrestrodd Ashley yn y lle cyntaf ar gwrs gradd BSc Peirianneg yn y Gyfadran Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg yn y Drindod Dewi Sant ar ôl astudio cymhwyster galwedigaethol (VRQ) (Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn) yng Ngholeg Gŵyr, Abertawe. Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar brosiect ymchwil i fagneteg gydag Eddyfi Technologies, sy’n rhannol noddi ei PhD ar y cyd â phrosiect KESS 2.
Cafodd ei annog i astudio am PhD gan Peter Charlton, Athro NDT Cymhwysol yn y Drindod Dewi Sant. Meddai Ashley: “Ymgeisiais am y cwrs BSc Peirianneg Fodurol yn y Drindod Dewi Sant am fy mod i eisiau aros yn Abertawe, lle cefais fy magu. Mae gen i ffrindiau oedd wedi astudio yn y Drindod Dewi Sant a gwyddwn fod y brifysgol yn enwog am ei chyrsiau peirianneg fecanyddol, peirianneg cerbydau modur a pheirianneg chwaraeon moduro. Roedd dosbarthiadau llai eu maint a mwy o gymorth ymarferol hefyd yn bethau yr oeddwn yn awyddus i’w cael, ynghyd â’r profiad o weithio ym myd diwydiant.
“Cefais brofiad o’r diwydiant trwy gyfnod ar leoliad yn ystod blwyddyn gyntaf fy nghwrs gradd gyda chwmni Days yn Llansamlet, yn yr adran gwasanaethu ceir. Rydw i wastad wedi bod â diddordeb yn y maes hwn gan weithio ar fy ngheir fy hun, a gwnaeth y lleoliad hwn hybu fy niddordeb. Gall y myfyriwr ennill profiad yn y diwydiant ym mhob maes o beirianneg chwaraeon moduro neu beirianneg fodurol. Ar gyfer fy nhraethawd hir yn fy nhrydedd flwyddyn, dewisais i’r testun Cerbydau Hybrid. Roeddwn i am ymchwilio’n fanwl i’r posibilrwydd o osod system hybrid ar fws – gan gyfrifo’r ynni gofynnol y gallwch ei storio a’i ail-ddefnyddio yn ystod cylchdaith bws. Ar ôl fy nhraethawd hir clywais am y cyfle i wneud y cwrs MSc mewn Profi a Gwerthuso Anninistriol gyda Peter Charlton, wnaeth fy annog i fynd amdani. Mae Peter wedi bod yn fentor rhagorol. Fyddwn i ddim yn gwneud fy noethuriaeth oni bai amdano fe. Rhoddodd e’r cyfle i mi gyflawni yr hyn rwy wedi’i wneud hyd yn hyn. Cefais gymorth ymarferol arbennig hefyd gan Goleg Gŵyr Abertawe. Mae’r staff a’r cyfleusterau yn yr adran cerbydau modur yn wych.”
Gyda’r defnydd cynyddol o ddefnyddiau cyfansawdd a’r potensial ar gyfer defnyddio defnyddiau “clyfar” wedi’u hymgorffori mewn strwythurau, mae gan lywodraeth y Deyrnas Unedig ddiddordeb cryf mewn hyrwyddo datblygiad technoleg NDT priodol i sicrhau diogelwch ac ansawdd cynhyrchion sydd wedi’u llunio o ddefnyddiau o’r fath.
Roedd y Drindod Dewi Sant yn bartner allweddol, ar y cyd â TWI Ltd, wrth sefydlu Canolfan Ddilysu NDT y Deyrnas Unedig, a elwir bellach yn Ganolfan Dechnoleg TWI Cymru, ym Mhort Talbot. Dyma’r tro cyntaf i brosiect arwyddocaol o’r fath gan yr Adran Diwydiant a Masnach gael ei sefydlu yng Nghymru, ac o ganlyniad mae’r prosiect yn amlwg iawn, gyda chefnogaeth gref gan Lywodraeth Cymru ac ystod o gleientiaid rhyngwladol o fri.
Mae’r Brifysgol yn parhau i fod â chysylltiad agos â Chanolfan Dechnoleg TWI Cymru a phartneriaid diwydiannol eraill strategol bwysig, ac mae nifer o ysgoloriaethau ymchwil PhD wedi’u creu. Mae momentwm cynyddol o weithgarwch ymchwil yn y Brifysgol, gyda phenodi Athro mewn NDT Cymhwysol ac Uwch Gymrodyr Ymchwil NDT.
I ategu’i gwaith Ymchwil a Datblygu sy’n cael ei gydnabod a’i barchu’n eang, mae’r Brifysgol yn cynnig yr unig gymhwyster ôl-raddedig mewn NDT yn Ewrop. Mae’r rhaglen MSc a werthfawrogir yn fawr yn cefnogi’r galw byd-eang am beirianwyr cymwysedig sy’n gallu gweithredu ar lefel uwch reolwyr, gan ddelio ag ystod o beirianwyr graddedig neu ôl-raddedig.
Wrth siarad am y cwrs NDT, meddai Ashley: “Mae’n gwrs dwys iawn sy’n cwmpasu ffiseg y prif dechnegau gan gynnwys uwchsain, radiograffeg, electromagneteg a thechnegau eraill, ond ar gyfer cymwysiadau peirianegol yn hytrach na meddygol. Mewn geiriau eraill, Ffiseg Gymhwysol. Wrth adael yr ysgol wnes i byth feddwl y byddwn i’n gwneud rhywbeth fel hyn, ond mae’r Brifysgol yn bendant wedi fy ysbrydoli i ddilyn y llwybr hwn.
“Rwy’n 26 bellach, ac mae gen i flwyddyn ar ôl ar fy noethuriaeth. Byddaf yn graddio flwyddyn nesaf, gyda phortffolio gwych mewn maes arbenigol. Dechreuodd fy mherthynas ag Eddyfi yn ystod fy MSc oherwydd cysylltiad yr Athro Charlton â chwmnïau lleol. Rydym yn cael y cyfle i fynd yno, defnyddio’u hoffer a gweithio gyda nhw ar ein traethodau hir.
“Rydw i eisiau parhau â’m gwaith ymchwil a datblygu. Rwyf wrth fy modd yn meddwl am syniadau a datrysiadau a ffyrdd newydd o wneud pethau.”
Meddai’r Athro Charlton: “Mae wedi bod yn wych i weld Ashley’n datblygu o fod yn fyfyriwr blwyddyn gyntaf israddedig i fod yn beiriannydd ymchwil o’r radd flaenaf. Un uchafbwynt arbennig oedd pan lwyddodd i sicrhau ei gyhoeddiad cyntaf yn seiliedig ar ymchwil gwaith cwrs a wnaeth yn rhan o’i MSc. Yn fwy diweddar mae wedi cyhoeddi papur mewn cylchgrawn o fri a adolygir gan gymheiriaid o ganlyniad i’w ymchwil PhD cyfredol. Edrychaf ymlaen at ei weld yn parhau â’i yrfa.”
Meddai Andrew Gibson, Cyfarwyddwr Rhaglen BSc/HND yn y Drindod Dewi Sant: “Rwy’n falch tu hwnt o Ashley a’i holl lwyddiannau. Rwy’n cofio Ashley’n dechrau ar ei astudiaethau 7 mlynedd yn ôl ar y rhaglen HND Peirianneg Fodurol gan wneud cynnydd parhaus a chwblhau ei flwyddyn olaf ar y radd BSc Anrhydedd. Nid yw wedi fy synnu oherwydd roedd Ashley’n fyfyriwr gwych ar fy rhaglen i, gan gyfuno galluoedd ymarferol tra datblygedig o ran y cymwysiadau modurol â dealltwriaeth resymegol a thrylwyr iawn o egwyddorion damcaniaethol peirianneg. Dymunaf bob llwyddiant iddo yn y dyfodol.”
Meddai’r Prif Wyddonydd Dr Neil Pearson yn Eddyfi Technologies yn Abertawe, a benodwyd yn ddiweddar yn Athro Ymarfer yn y Gyfadran Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg yn y Drindod Dewi Sant: “Mae ymgysylltu â phrifysgolion yn allweddol i’n strategaeth twf busnes, gan gefnogi myfyrwyr ôl-raddedig a all ein helpu i wthio ffiniau’r hyn y gallwn ei gyflawni gyda’n technolegau wrth i ni greu rhai newydd. Mae Ashley, gyda chymorth yr Athro Charlton, wedi’n helpu ni i ddeall ffiseg problemau technegau NDT sy’n datblygu’n syniadau a chynhyrchion newydd posibl yr ydym yn eu hallforio ar draws y byd. Gyda thalent fel Ashley, rydym am gynnig cyfleoedd cyflogaeth i gadw myfyrwyr lleol yn lleol a pharhau i gynhyrchu technoleg o’r radd flaenaf yn Ne Cymru.”
Meddai Jason Lewis, darlithydd yng Ngholeg Gŵyr Abertawe: “Yn ystod ei gyfnod yn fyfyriwr yn yr adran cerbydau modur yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, roedd Ashley wedi ymroi i’w astudiaethau ac ef oedd y cyntaf bob tro i gwblhau ei waith ymarferol a theori.
“Fel un oedd bob amser yn barod i helpu eraill yn y grŵp, roedd Ashley yn fodel rôl ardderchog ac mae’n wych gweld bod ei waith caled a’i ymroddiad wedi talu ar ei ganfed – mae wedi gwneud cynnydd penigamp.”