Mae rhai o ddysgwyr mwyaf talentog Coleg Gŵyr Abertawe wedi cystadlu yng Ngwobr Celf y Pennaeth, menter newydd sydd ar agor i’r rhai sy’n astudio pynciau creadigol ar Gampws Gorseinon a Champws Llwyn y Bryn.
Enillodd y myfyriwr Sylfaen Celf a Dylunio, Karen Woods, wobr aur am ei darn pensil pastel meddylgar o’r enw Plentyn o Ethiopia.
Yn seiliedig ar gyfarfod go iawn gyda’r ferch fach, dywedodd Karen: “Roeddwn i’n hoffi ei gwȇn hi a’r cynhesrwydd yn ei llygiad. Roedd hi’n berchen ar y nesaf peth i ddim ond roedd hi’n hapus ac yn annwyl iawn.”
Daeth y myfyriwr Lefel 1 Celf a Dylunio, Wiktoria Blus, a’r myfyriwr Lefel 2 Ffotograffiaeth, Nina Dunstan-Davies, yn ail am eu darnau Noddfa a Dal y Don yn Ôl.
Cafodd Wiktoria, a enillodd deitl Myfyriwr y Flwyddyn Y Celfyddydau Gweledol Coleg Gŵyr Abertawe, ei hysbrydoli gan thema noddfa ac roedd hi’n awyddus i greu delweddau oedd yn cyfleu gofal, empathi a charedigrwydd.
Yn y cyfamser, roedd darn Nina yn adlewyrchu rhwystredigaethau’r cyfnodau clo Covid yn ddiweddar a’r angen i fod yn wydn a pharhau i frwydro’n ôl.
“Rydyn ni mor falch o’r myfyrwyr hyn sydd wedi ymateb i’r briff mewn ffyrdd mor greadigol,” meddai’r darlithydd Susanne David. “Roedd ansawdd y cyflwyniadau wedi creu argraff fawr ar y panel o feirniaid ac roedd hi’n anodd dewis y tri gorau.
“Rydyn ni’n hynod gyffrous bod y mwyafrif o’r myfyrwyr hyn yn dychwelyd i’r Coleg ym mis Medi i symud ymlaen i lefel nesaf eu hastudiaethau. Rydyn ni’n dymuno pob lwc i’r rhai sy’n gadael i ddilyn addysg uwch ac rydyn ni’n edrych ymlaen i weld y gwaith y byddwch chi’n ei greu yn y dyfodol…”
Cyrhaeddodd y dysgwyr canlynol y rhestr fer hefyd:
Ryan Jones am Mr Jones - Lefel 1 Celf a Dylunio
Jay Phillips am Dwi’n Dwlu ar Gelf - Lefel 2 Celf a Dylunio
Bryce Bowden am Afal y Dydd - Lefel 2 Celf a Dylunio
Daisy Guyver am Patrwm Ailadroddus - Lefel 3 Celf a Dylunio
Eddie Walker am Caeth mewn Arwahanrwydd Lefelog – Lefel 2 Ffotograffiaeth
Phoebe Stephen am Gwacter Ieuenctid – Safon UG/Uwch Ffotograffiaeth
Shay Graham am Sŵn Gwyn – Safon UG/Uwch Ffotograffiaeth
Trefnwyd y gystadleuaeth gan dîm Menter CGA gyda’r nod o annog dysgwyr i ymgysylltu â chyfleoedd i werthu eu gwaith celf, a bydd y darnau buddugol yn cael eu harddangos ar draws campysau’r Coleg.