Mae Ben Lewis, prentis electroneg yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, ar fin cynrychioli Tîm y DU yng nghystadleuaeth WorldSkills 2022 yn Tsieina. Bydd Ben, a fydd yn cystadlu yn y categori Electroneg Ddiwydiannol, yn ymuno â thri cystadleuydd arall o Gymru yn y tîm.
Mae WorldSkills, sy’n cael ei alw yn ‘Gemau Olympaidd Sgiliau’ yn gystadleuaeth a gynhelir bob dwy flynedd sy’n cael ei pharchu yn rhyngwladol, ac sy’n gwobrwyo pobl am ragoriaeth mewn disgyblaethau technegol.
Bydd carfan y DU yn wynebu cystadleuwyr o 80 o wledydd i ennill aur yn eu maes. Mae’r tîm amrywiol yn cael eu dewis yn dilyn buddugoliaethau yn y cystadlaethau cenedlaethol. Mae cynrychiolwyr o Gymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cyhwfan y faner dros y DU.
“Dwi’n edrych ymlaen yn fawr i fynd i Shanghai ym mis Hydref,” dywedodd Ben. “Dwi wir wedi mwynhau’r holl hyfforddiant ychwanegol a’r cystadlaethau rydyn ni wedi’u gwneud hyd yn hyn. Mae fy narlithwyr wedi bod mor gefnogol ac wedi helpu bob cam o’r ffordd – o’u ymdrechion ar-lein drwy’r pandemig i’r hyfforddiant rydyn ni wedi’i gael wyneb yn wyneb ers i ni fod yn ôl ar y campws. Dwi’n edrych ymlaen i gystadlu yn erbyn y goreuon o wahanol wledydd ledled y byd.”
“Fel Coleg, rydyn ni mor falch o lwyddiant aruthrol Ben fel aelod o garfan y DU,” dywedodd Deon y Gyfadran, Cath Williams. “Nid yn unig mae e’n beiriannydd hynod dalentog gyda lefel sgiliau anhygoel, mae e hefyd yn ddyn ifanc brwdfrydig, hoffus ac annwyl.”
Mae Tîm y DU yn gobeithio gwella’r 12fed safle y cyrhaeddodd yn WorldSkills Kazan 2019 i ennill medalau yn y 10 uchaf. Yn eu helpu i wireddu’r freuddwyd hon fydd cyn-enillwyr medalau aur, arweinwyr diwydiant ac addysgwyr a fydd yn hyfforddi’r garfan cyn y gystadleuaeth.
Dechreuodd hyfforddiant ar gyfer y brif wobr ym mis Ionawr 2020. Cafodd ei drefnu yn wreiddiol ar gyfer 2021, ond oherwydd y pandemig cafodd rowndiau terfynol Shanghai eu gohirio am flwyddyn - a gwnaethon nhw ddelio â’r ergyd honno yn ddidrafferth.
“Rydyn ni’n falch o’r sgiliau a’r awydd penderfynol mae’r bobl broffesiynol ifanc hyn wedi’u dangos. Maen nhw’n cynrychioli’r gorau oll yn eu maes. Nid yn unig mae’r digwyddiad hwn yn rhoi cyfle i bobl ifanc gyrraedd eu potensial, ond byddwn ni’n defnyddio’r wybodaeth a gafwyd o gystadlu yn erbyn gwledydd eraill i wella safonau mewn addysg dechnegol gartref,” dywedodd Dirprwy Swyddog Gweithredol WorldSkills UK, Ben Blackledge.