Bu datblygiadau cyffrous yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn ddiweddar gyda chyflwyniad y Maes Dysgu newydd o’r enw Amgylchedd Adeiledig, sy’n cwmpasu cyrsiau mewn plymwaith, adeiladu, trydanol ac ynni.
Ac yn goruchwylio’r adran newydd hon mae Rheolwr Maes Dysgu newydd - Hannah Pearce.
A hithau yn arfer gweithio yn y Coleg fel darlithydd peirianneg, mae gan Hannah gyfoeth o brofiad o’r amgylchedd adeiledig a rheoli sy’n deillio o’r cyfnod a dreuliodd ym myd diwydiant lle gweithiodd fel peiriannydd sifil i Laing O’Rourke.
Mae hi wedi gweithio’n helaeth mewn ysgolion, lle datblygodd gweithdai a gwersi STEM i ddisgyblion a’u haddysgu.
“Bydd Amgylchedd Adeiledig yn adran sy’n cyflawni ac yn ysbrydoli, gyda thaith addysgol y myfyriwr wrth wraidd yr hyn a wnawn,” dywedodd Hannah.
“Gyda golwg ar ddatblygu cyrsiau ar draws yr holl lefelau o TGAU i Addysg Uwch, byddwn ni’n meithrin ac yn datblygu ein cysylltiadau o fewn y diwydiant ei hun, ac yn cyflwyno cysylltiadau a chyfleoedd newydd.
“Mae’r diwydiant yn un sy’n newid yn gyflym a rhaid i ni fel coleg addasu’n ddynamig i weddu i hynny. Mae gyda ni gyfres o gymwysterau newydd sy’n dechrau’n fuan a byddwn ni hefyd yn gobeithio datblygu rhagor o gyrsiau yn y sector adnewyddadwy.”
Yn fuan, bydd Richard Sellick yn ymuno â Hannah fel Rheolwr Cynorthwyol Maes Dysgu Amgylchedd Adeiledig.
Mae Richard, a fu’n Arweinydd Maes Cwricwlwm Adeiladu yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr cyn hyn, wedi chwarae rôl allweddol yn datblygu’r cwricwlwm drwy grwpiau ffocws ar gyfer y cymwysterau newydd ac yn datblygu sgiliau myfyrwyr drwy sioeau adeiladu a chystadlaethau ymarferol.
Y cwrs newydd cyntaf i gael ei gynnig o dan y Maes Dysgu fydd Safon Uwch Amgylchedd Adeiledig a fydd yn dechrau ym mis Medi 2022. Bydd y cwrs hwn yn rhoi modd i ddysgwyr gael dealltwriaeth fanwl o rolau proffesiynol o fewn y diwydiant fel pensaer, peiriannydd, syrfëwr, swyddog iechyd a diogelwch, arolygwr adeiladu a rheolwr safle.