Roedd 120 o ddisgyblion o chwe ysgol yn Abertawe wedi mwynhau diwrnod blasu lletygarwch yng Ngholeg Gŵyr Abertawe ddydd Mawrth 14 Mawrth.
Trefnwyd yr achlysur arbennig rhad ac am ddim gan The Chefs’ Forum ac roedd yn gyfle i’r Coleg groesawu disgyblion ysgol a rhoi blas iddynt ar yr hyn sydd i’w ddisgwyl ar gwrs arlwyo.
“Rydyn ni’n galw’r achlysur yn gipolwg ar fyd y diwydiant lletygarwch,” dywedodd Cyfarwyddwr The Chef’s Forum Catherine Farinha. “Cawson ni amrywiaeth gwych o ben-cogyddion a gweithwyr proffesynol blaen y tŷ. Roedd y myfyrwyr wedi mwynhau mas draw!”
Dywedodd Mark Clement, Rheolwr Maes Dysgu Lletygarwch, Twristiaeth, Trin Gwallt, Harddwch a Therapïau Cyflenwol “Dyma beth yw pwrpas ein perthynas gyda The Chefs’ Forum. Mae agor y Coleg er mwyn i ysgolion weld beth rydyn ni’n ei wneud a phwy rydyn ni’n gweithio gyda nhw yn hollbwysig ar gyfer ein dyfodol. Allen ni ddim wneud hyn yn yr un ffordd ar ein pennau ein hunain. Cawson ni lawer o hwyl a sbri.”
Dechreodd y bore gyda derbyniad â chanapés a moctêls wedi’i ddilyn gan sesiwn gwneud pasta gydag Orsola Muscia o The Tailor Made Chef. Fe wnaeth Orsola wahodd myfyrwyr o’r ysgolion i ymuno â hi ar y llwyfan, lle addysgodd hi’r mantra Eidalaidd tragwyddol iddynt sef 100g o flawd fesul pob wy cyfan!
Nesaf, cafwyd sesiwn ryngweithiol gyda Leon Lewis o Cook with Lewis a MasterChef: The Professionals 2022 a Clive D’Angelo Smith o Four Seasons Catering.
Fe wnaeth y myfyrwyr helpu gyda’r arddangosiadau, cyn cymryd rhan mewn cystadleuaeth llenwi ac addurno éclairs.
Rhoddwyd copi o The Chefs’ Knowledge i’r holl fyfyrwyr a gynorthwyodd ar y llwyfan ac i’r pâr a enillodd y gystadleuaeth. Cafodd ei lofnodi gan bob un o’r pen-cogyddion gwadd roeddent yn gweithio gyda nhw.
Yn olaf, cafwyd sgwrs gyda’r seren leol Hywel Griffith o’r Beach House am yr hyn mae’n ei gymryd i ennill seren Michelin. Yn ymuno ag ef roedd rheolwr ei fwyty Christie Hayes sydd hefyd â’r teitl Rheolwr Bwyty y Flwyddyn 2023.
Yn ogystal, clywsom gan Jack, myfyriwr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe a wnaeth leoliad gwaith yn y Beach House. Roedd yn gallu dweud wrth y gwesteion am ei waith yn y bwyty a’r hyn sydd i’w ddisgwyl yn y diwydiant.
“Roedd yn fore anhygoel” dywedodd Catherine Farinha. “Diolch yn fawr iawn i’r Coleg. Roedd yr holl fyfyrwyr wedi ymddwyn yn dda ac roedd yr arddangosiadau yn fendigedig.”
Noddwyr y digwyddiad oes Castell Howell a Premiere Foods.