Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi ennill ‘Gwobr Rhyngwladoliaeth y Cyngor Prydeinig’ yng Ngwobrau Beacon Cymdeithas y Colegau (AoC), sy’n dathlu’r arferion gorau a mwyaf blaengar ymhlith colegau addysg bellach y DU.
Mae ‘Gwobr Rhyngwladoliaeth y Cyngor Prydeinig’ yn cydnabod y rôl sydd gan y Coleg, nid yn unig o ran datblygu gwybodaeth a sgiliau myfyrwyr, ond datblygu’r myfyrwyr fel dinasyddion rhyngwladol. Mae’n cydnabod y manteision o weithio gyda myfyrwyr a sefydliadau, nid yn unig yn y DU, ond ledled Ewrop a’r byd.
Dywedodd Mark White, Cadeirydd Dros Dro Ymddiriedolaeth Elusennol AoC “Mae Gwobrau Beacon AoC yn dangos yn union pam mae colegau mor bwysig i bob cymuned a pham mae pobl yn eu gwerthfawrogi. Mae’r wobr hon yn cydnabod enghreifftiau o ddysgu ac addysgu ymarferol ardderchog. Mae gwaith y coleg buddugol yn dangos pa mor bwysig yw colegau o ran rhoi sgiliau angenrheidiol i fyfyrwyr ar gyfer y byd go iawn.”
Cynhaliwyd y Seremoni yn Llundain ddydd Llun 27 Chwefror. Roedd y Pennaeth Mark Jones, Pennaeth yr Adran Ryngwladol, Ruth Owen Lewis a’r Cyfarwyddwr Sgiliau a Datblygu Busnes, Paul Kift yn bresennol i gasglu’r wobr.
“Rydyn ni i gyd wrth ein boddau i dderbyn y wobr hon i gydnabod y gwaith ardderchog sy’n cael ei wneud yn y maes hwn ar draws y Coleg bob dydd” meddai’r Pennaeth Mark Jones.
“Boed yn waith recriwtio a chefnogi myfyrwyr rhyngwladol, ein teithiau symudedd ar gyfer myfyrwyr a staff, ein darpariaeth ESOL sydd wedi arwain at ein teitl y ‘Coleg Noddfa’ cyntaf yng Nghymru, ein Rhaglen Addysg Gymunedol Cenia sydd eleni yn dathlu ei phen-blwydd yn 20 oed – mae’r holl waith hyn yn dangos ein hymrwymiad i fod yn goleg rhyngwladol.”
Mae’r Coleg yn rhoi pwyslais mawr ar ddatblygu partneriaethau ac mae ganddo bortffolio eang o weithgarwch rhyngwladol, gan gynnwys rhaglenni symudedd myfyrwyr a ariennir gan Erasmus+ a rhaglenni ar gyfer 2023 a ariennir gan Raglen Taith Llywodraeth Cymru. Ni fyddai llawer o’r mentrau rhyngwladol hyn wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth partneriaethau rhyngwladol a chenedlaethol, megis Llywodraeth Cymru, Cymru Fyd-eang a’r Cyngor Prydeinig.
Ar hyn o bryd, mae gan y Coleg tua 50 o fyfyrwyr rhyngwladol amser llawn, amrywiaeth o bartneriaethau addysg yn Ewrop, y Dwyrain Canol ac Asia yn ogystal â channoedd o fyfyrwyr rhyngwladol sy’n mynychu bob blwyddyn ar gyfer rhaglenni astudio tymor byr pwrpasol.
Ym mis Medi 2021, lansiodd y Coleg y Cynllun Cyfeillion Rhyngwladol arloesol, sy’n rhoi modd i fyfyrwyr lleol weithredu fel mentoriaid i gynorthwyo myfyrwyr rhyngwladol ac elwa trwy rannu eu gwahaniaethau diwylliannol.
Mae’r Coleg yn ymwneud yn helaeth â rhaglen arloesol WorldSkills a adwaenir fel ‘Gemau Olympaidd Sgiliau’. Mae’n gystadleuaeth bob dwy flynedd sy’n cael ei pharchu’n rhyngwladol ac sy’n gwobrwyo rhagoriaeth mewn disgyblaethau technegol. Mae’n rhoi cyfle i ddysgwyr fel Ben Lewis, prentis electroneg, gynrychioli’r Coleg mewn digwyddiad rhyngwladol a gynhaliwyd yn Shanghai (Tsieina) y llynedd.
Ym mis Awst 2021, cafodd y Coleg ei gydnabod yn swyddogol fel Coleg Noddfa, y Coleg AB cyntaf yng Nghymru i dderbyn clod o’r fath. Fe’i dyfarnwyd gan City of Sanctuary UK, sefydliad sydd wedi ymrwymo i adeiladu diwylliant o ddiogelwch, cyfle a chroeso, yn enwedig i’r rhai sy’n ceisio noddfa rhag rhyfel ac erledigaeth. Mae’r Coleg yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe i gyflwyno cyrsiau ESOL (Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill) i’r rhai sy’n ceisio lloches, gyda 150 o ffoaduriaid o Wcráin yn astudio yn y Coleg ar hyn o bryd.
Enghraifft arall o waith rhyngwladol y Coleg yw Prosiect Addysg Gymunedol Cenia. Am 20 mlynedd mae’r Coleg wedi bod yn meithrin cysylltiadau rhwng ein myfyrwyr ni a’r rhai yn Ysgol Gynradd Madungu yng Ngorllewin Cenia. Mae ymdrechion codi arian gwych ein myfyrwyr yn golygu bod cyfle gan y bobl ifanc ddifreintiedig hyn i ddysgu, ennill cymwysterau a mwynhau dyfodol gwell. Mae’r Prosiect hefyd yn rhoi cyfle i’r myfyrwyr deithio i Genia i weld drostynt eu hunain pa mor bwysig yw’r arian a godir i’r ysgol.
Barnwyd y gwobrau gan aseswyr annibynnol trwy geisiadau dienw cychwynnol er mwyn sicrhau didueddrwydd. Yna aeth aseswyr i’r colegau hynny a gyrhaeddodd y rownd derfynol, er mwyn cymharu ‘tystiolaeth ar lawr gwlad’ y mentrau.
Digwyddodd yr ymweliad rhithwir â’r Coleg ar 17 Ionawr gyda phedwar aseswr. Y prif aseswr oedd Marguerite Hogg, Uwch Reolwr Polisi yn AoC, gyda Viktoriia Teliga, Uwch Ymgynghorydd yn y Cyngor Prydeinig, Janet Stevens, Pennaeth Marchnata Strategol yng Ngholeg Ynys Wyth, ac Ann Holland, Rheolwr Gweithrediadau Rhyngwladol yng Ngholeg Burton a De Swydd Derby. Trefnwyd amserlen orlawn i arddangos gweithgareddau rhyngwladol y Coleg, gyda staff a myfyrwyr yn cymryd rhan.
“Roedd Coleg Gŵyr Abertawe a dyfnder ac ehangder gwaith rhyngwladoli’r Coleg wedi creu argraff ar bob un o’r tîm asesu” meddai Marguerite Hogg, Uwch Reolwr Polisi yn AoC ac aseswr arweiniol y wobr rhyngwladoliaeth. “O ystyried yr 20 mlynedd o waith elusennol yng Nghenia ac integreiddio dysgwyr rhyngwladol yn yr ystafell ddosbarth ochr yn ochr â dysgwyr o Gymru, gwaith y Coleg Noddfa ac ymgorffori rhagoriaeth WorldSkills yn yr ystafell ddosbarth, roedd Coleg Gŵyr Abertawe yn ysbrydoliaeth.”
Dywedodd Ruth Owen Lewis, Pennaeth yr Adran Ryngwladol, “Mae’n gymaint o anrhydedd i ennill y wobr fawreddog hon! Ein nod yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yw creu dinasyddion byd-eang sydd â gwerthfawrogiad o’r byd yn gyffredinol, ac uchelgais i gyfrannu at gymdeithas fyd-eang.”
Ychwanegodd Paul Kift, Cyfarwyddwr Sgiliau a Datblygu Busnes, “Mae cael ein coroni yn Goleg Rhyngwladol blaenllaw y DU yn dyst i waith caled fy nghydweithwyr, ein partneriaid a’n holl ddysgwyr a’n cleientiaid gwych – yn Abertawe a thramor. O ganlyniad i’r wobr hon, byddwn ni’n gwneud rhagor eto i ryngwladoli’r Coleg – a bydd hyn yn rhoi modd i ni barhau â’n gwaith o fynd â Chymru i’r byd, a dod â’r byd i Gymru”.