- Mae gwobr efydd Stonewall yn cydnabod cyflogwyr eithriadol sydd yn ymrwymedig i gefnogi eu staff a’u cwsmeriaid LHDTC+.
- Canmolwyd Coleg Gŵyr Abertawe am weithio’n galed i greu gweithle lle gall weithwyr LHDTC+ fynegi eu hunain yn y gwaith.
- Mae Coleg Gŵyr Abertawe bellach yn rhan o restr helaeth o gwmnïau ym meysydd adeiladu, y gyfraith, iechyd, cyllid ac addysg sydd wedi ennill gwobr Efydd am gynnig gweithle cynhwysol i staff LDHTC+.
Heddiw, mae Stonewall - elusen fwyaf Ewrop ar gyfer hawliau lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws a cwiar - wedi lansio Rhestr 100 Cyflogwr Gorau ac mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cael ei ganmol am ei waith o ran cefnogi staff LHDTC+ i fod yn nhw eu hunain yn y gwaith.
Ar restr Cyflogwyr Gorau Stonewall, mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi sicrhau'r 12fed safle ymhlith pencadlys Cyflogwyr Cymru, ac rydym wedi ennill y 25ain safle yn Sector Addysg y DU.
Dros y flwyddyn ddiwethaf mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi gwneud camau sylweddol tuag at greu amgylchedd gwaith cynhwysol, gan sefydlu rhwydwaith staff LHDTC+ at ddibenion hybu hawliau LHDTC+ a chynwysoldeb ledled y Coleg.
Rhestr 100 o Gyflogwyr Gorau Stonewall yw rhestr fwyaf clodfawr y DU o gyflogwyr o sectorau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector. Mae’r rhestr yn mesur cynwysoldeb eu gweithle.
Mae creu amgylcheddau cynhwysol yn gwneud y gweithle yn lle gwell a mwy diogel i bawb - nid yn unig pobl LHDTC+.
Dwedodd Nancy Kelley, Prif Swyddog Gweithredol Stonewall (hi):
‘Braf yw gweld bod y Coleg wedi bod yn gweithio’n galed dros y flwyddyn ddiwethaf i greu gweithle sy’n caniatáu staff LHDTC+ i ffynnu.
‘Mae’r mwyafrif ohonom yn treulio’n rhan fwyaf o’n hamser yn y gwaith, felly os ydym yn gorfod cuddio pwy ydym ni, gall hyn gael effaith negyddol iawn arnom, gan ein hatal rhag cyflawni ein potensial llawn. Mae creu amgylchedd lle gallwn oll deimlo’n gyfforddus yn ffordd o wneud gweithleoedd yn fannau mwy diogel, gwell a chyfeillgar i bawb, ac mae hyn yn helpu staff i fod yn falch o bwy ydyn nhw.
‘Rydym yn falch iawn o weld amrywiaeth eang o sefydliadau a sectorau ar y rhestr eleni, ac maent oll yn ymrwymedig i wella bywydau unigolion LHDTC+.”
Dywedodd Sarah King, Cyfarwyddwr AD Coleg Gŵyr Abertawe (hi):
‘Rydyn ni’n falch iawn o dderbyn Gwobr Efydd Stonewall gan ein bod wedi gweithio’n galed i greu gweithle cynhwysol i bawb; gweithle sy’n croesawu a chefnogi pawb.
‘Trwy gydol y flwyddyn rydyn ni’n cynnal digwyddiadau ymwybyddiaeth ar faterion penodol ledled y Coleg, gan gynnwys “Wythnos Enfys”, sef wythnos i ddathlu cynwysoldeb a chodi ymwybyddiaeth o faterion LHDTC+ ymhlith staff. Mae llawer o hyrwyddwyr LHDTC wedi ymweld â’r Coleg i rannu eu profiadau, gan gynnwys Nigel Owens MBE a Kellie Maloney.
'Mae ein polisïau wedi eu canmol gan Stonewall am fod yn gynhwysol. Er enghraifft, rydyn ni’n defnyddio ieithwedd niwtral o ran rhywedd ac rydyn ni’n cynnig cyfleusterau niwtral o ran rhywedd ym mhob un o’n hadeiladau. Rydyn ni’n parhau i weithio tuag at greu gweithlu lle mae pawb yn teimlo’n ddiogel ac yn gyfforddus i fynegi eu hunain yn y gwaith.”
Yn ogystal, mae gan y Coleg Wobr Aur ar gyfer Iechyd a Diogelwch Corfforaethol i gydnabod ei bolisi o gynnal a hyrwyddo iechyd a lles o’r radd flaenaf yn y gweithle.