Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn ymuno â WorldSkills UK i arddangos sgiliau o’r radd flaenaf.
Roedd myfyrwyr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe wedi dangos eu sgiliau peirianneg electronig o’r radd flaenaf mewn digwyddiad hyfforddiant rhithwir gyda myfyrwyr o bob rhan o Tsieina.
Y digwyddiad oedd y cyntaf o’i fath i gael ei gynnal yng Nghymru, ac fe’i trefnwyd gan WorldSkills UK, yr elusen addysg a sgiliau, gan gefnogi ei raglen i gyfnewid arfer gorau mewn datblygu sgiliau gyda gwledydd ledled y byd.
Cychwynnwyd y digwyddiad deuddydd (18-19 Tachwedd) i rannu arfer da gan yr Adran Masnach Ryngwladol a’r Weinyddiaeth Adnoddau Dynol a Nawdd Cymdeithasol yn Tsieina, ac roedd y digwyddiad hefyd yn cynnwys diwrnod o ddosbarthiadau meistr.
Yn cymryd rhan o Goleg Gŵyr Abertawe roedd myfyrwyr peirianneg electronig Ben Lewis, Liam Hughes, Rhys Watts, Ryan Day a Marcus Drennan. Dyluniwyd y digwyddiad hyfforddi rhithwir gan Steve Williams, Arweinydd Cwricwlwm yn y Coleg sydd hefyd yn Rheolwr Hyfforddiant Rhyngwladol WorldSkills UK ar gyfer Electroneg Ddiwydiannol.
Dywedodd Parisa Shirazi, Pennaeth Datblygu Sgiliau a Chystadlaethau Sgiliau Rhyngwladol, WorldSkills UK: “Mae WorldSkills UK yn rhan o rwydwaith byd-eang o dros 80 o wledydd sy’n cydweithio i brif ffrydio rhagoriaeth mewn datblygu sgiliau trwy rannu mewnwelediadau rhyngwladol ac arfer gorau.
"Trwy gynnal digwyddiadau hyfforddi rhithwir i bobl ifanc yng Nghymru, rydym yn sicrhau, er gwaethaf effeithiau parhaus y pandemig, y gallant barhau i rannu syniadau a dysgu oddi wrth eu cyfoedion ledled y byd. Mae hyn yn eu helpu i ddatblygu’r sgiliau o safon uchel sydd eu hangen ar gyflogwyr yng Nghymru i helpu i hybu diwydiant a denu buddsoddiad rhyngwladol.”
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn gweithio’n agos gyda WorldSkills UK ac yn cofrestru ei fyfyrwyr ar raglen cystadleuaeth sgiliau ledled yr DU fel rhan o’i ymrwymiad i helpu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau o’r radd flaenaf.
Yn ystod y digwyddiad a gynhaliwyd yn ddiweddar ar Gampws Tycoch y Coleg, cyflwynwyd medalau i Rhys (Aur), Ben (Arian) a Liam (Arian). Mae hyn yn golygu bod eu breuddwyd o gynrychioli’r DU yng Nghystadleuaeth WorldSkills yn Shanghai yn 2022 - digwyddiad a elwir y ‘Gemau Olympaidd sgiliau’ - bellach o fewn cyrraedd.
Dywedodd Rhys Watts: “Mae cymryd rhan yn y gystadleuaeth a’r dosbarthiadau meistr wedi bod yn brofiad anhygoel i mi. Mae wedi rhoi cymaint o hwb i mi ac rydw i nawr yn edrych ymlaen yn fawr at y cam nesaf a gweld lle gall fy sgiliau fynd â mi. ”
Dywedodd Steve Williams: “Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi mwynhau partneriaeth hir, amlwg gyda WorldSkills UK ond mae’r gystadleuaeth hon yn hollol wahanol i unrhyw beth rydyn ni, neu yn wir unrhyw goleg arall, wedi’i wneud o’r blaen. Mae cystadlu mewn amser real gyda’n cymheiriaid yn Tsieina yn gam cyffrous ymlaen o ran profiad y myfyriwr.
"Mae hefyd yn rhoi cyfle i ni i gyd rannu arfer da, edrych ar y gwahaniaethau a’r tebygrwydd o ran sut rydyn ni’n gwneud pethau, a meithrin cysylltiadau cadarn gyda’n cyfoeswyr ledled y byd. Mae dysgu ar-lein a dysgu o bell yn hollbwysig ar hyn o bryd, ac felly rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at ddatblygu ffyrdd newydd ac arloesol o ddysgu ac addysgu, yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt!”