Daw myfyrwyr rhyngwladol Coleg Gŵyr Abertawe, sydd rhwng 16 a 18 oed, o wledydd o bedwar ban byd. Eleni mae gan y Coleg fyfyrwyr o Gambodia, Tsieina, Yr Almaen, Hong Kong, Iran, Yr Eidal, Romania, Rwsia, De Corea, Taiwan, Yr Emiradau Arabaidd Unedig a Fietnam.
Mae Homestay yn fwy na byw fel gwestai yng nghartref rhywun. Mae’n hanfodol bod myfyrwyr yn teimlo eu bod yn un o’r teulu drwy gymryd rhan yn eu trefn ddyddiol, fel cael cinio gyda’r hwyr gyda’r teulu. Mae hyn yn eu helpu i deimlo’n fwy cartrefol, ond mae hefyd yn ffordd ardderchog i fyfyrwyr brofi diwylliant Prydeinig a gwella eu sgiliau iaith Saesneg, sydd yn hollbwysig ar gyfer eu hastudiaethau a’u llwyddiant yn y Coleg.
Mae’r Coleg yn ceisio sicrhau bod y myfyriwr a’r teulu croesawu yn gweddu i’w gilydd. Maen nhw’n eu cyflwyno i’w gilydd cyn iddyn nhw gyrraedd y wlad fel y gallan nhw drafod eu hoff bethau a’u cas bethau a’u diddordebau.
Mae teuluoedd Homestay yn darparu cyswllt hanfodol rhwng y myfyriwr, y Coleg a’u teuluoedd gartref ac maen nhw’n cynorthwyo’r myfyriwr i fod yn annibynnol ac ennill y sgiliau cymdeithasol sydd eu hangen arnynt ar gyfer astudiaethau pellach a bywyd prifysgol yn y DU.
Yma mae Sue a Keith Dinnage a Sue Morris yn rhannu eu profiadau o gynnig llety Homestay i ddau fyfyriwr o Fietnam a Tsieina.
Sue Dinnage
"Rydyn ni wedi cael y pleser o gynnig llety Homestay ers sawl blwyddyn ac mae wedi bod yn brofiad gwerth chweil. Ein nod yw darparu profiad croesawgar, ‘cartref o’r cartref’ i’r myfyrwyr ifanc yn ein gofal. Rydyn ni’n mwynhau rhannu ein gwybodaeth o’n diwylliant a’n gwlad a hefyd ddysgu am ddiwylliant a mamwlad ein gwesteion, sy’n agoriad llygad i ni i gyd. Mae’r Coleg yn rhoi cymorth ardderchog i’r myfyrwyr ac i’r teuluoedd Homestay gyda sawl pwynt cyswllt."
Sue Morris
“Mae darparu llety Homestay wedi bod yn brofiad gwerth chweil yn fy marn i. Mae’r holl fyfyrwyr dwi wedi’u cael wedi dod o wledydd Asia ac mae’n ddiddorol dysgu am y diwylliannau gwahanol. Mae’n hawdd edrych ar eu hôl nhw oherwydd maen nhw’n fyfyrgar iawn gyda natur hawddgar. Byddwn i’n argymell unrhyw un i gynnig llety, er lles y myfyriwr ac er eich lles chi hefyd. Mae’n braf rhoi cartref i bobl o dramor sydd efallai i ffwrdd o’r cartref am y tro cyntaf.”
Nguyen Nghi (Ivy), Myfyriwr Safon Uwch
“Mae fy amser yn Abertawe hyd yn hyn wedi bod yn addysgiadol, dwi wedi dysgu bod yn fwy annibynnol, bod yn weithgar a magu cymhelliant ar gyfer y dyfodol. Dwi wir yn gwerthfawrogi’r Swyddfa Ryngwladol hyfryd a fy nheulu Homestay am fy nghynorthwyo i ar hyd y ffordd. Mae Mrs Morris a’i theulu wedi rhoi croeso cynnes i mi ac maen nhw bob amser yn gwneud i mi deimlo’n gartrefol. Mae hi wedi edrych ar fy ôl i, gan gynnwys prydau bwyd ac mae hi hefyd yn fodlon treulio ei hamser yn gwrando arna i, a mynd â mi i’r eglwys leol bob penwythnos. Mae fy nheulu yn meddwl y byd ohoni. Diolch i chi a’ch teulu Mrs Morris, a phob cariad i chi”.
Os fod diddordeb efo chi mewn cynnig llety homestay, cysylltwch a'r tîm Rhyngwladol drwy ebost international@gcs.ac.uk neu ffonio (01792) 284 007.