Skip to main content

Croeso i Goleg Gŵyr Abertawe

Academi Saesneg

Mae’r cwrs hwn yn cynnig mynediad ar lefelau cymhwysedd amrywiol ac mae’n rhoi cyfle i fyfyrwyr ehangu eu sgiliau siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu. Addysgir Saesneg defnyddiol mewn sefyllfaoedd realistig fel y gall myfyrwyr ddysgu ac ymarfer iaith ym mywyd pob dydd. Addysgir y cwrs o ddydd Llun i ddydd Gwener am 16 awr yr wythnos.

Gwneir asesiadau pan fydd myfyrwyr wedi cyrraedd y safonau gofynnol i gyflawni’r modiwlau City & Guilds mewn darllen, ysgrifennu, siarad a gwrando. Gall myfyrwyr wneud cais am gyrsiau Safon Uwch neu Lefel Uwch yng Ngholeg Gŵyr Abertawe ar ôl iddynt gyrraedd y lefel cymhwysedd briodol ar gyfer y rhaglen astudio o’u dewis.

Bydd y cwrs hwn yn datblygu perfformiad myfyrwyr ar draws yr holl sgiliau iaith Saesneg allweddol er mwyn sicrhau’r llwyddiant mwyaf posibl mewn arholiadau IELTS. Mae ei gynnwys diddorol yn darparu digon o ymarfer mewn technegau astudio sylfaenol ar gyfer pontio i ddysgu Safon Uwch. Mae myfyrwyr yn cael cyfle i dreialu pynciau o’u diddordeb ac elwa ar gyfeillion Coleg. Mae gweithgareddau cymdeithasol a diwylliannol cynhwysol yn ategu pynciau gwersi ac maen nhw’n codi cwr y llen ar fywyd myfyrwyr yn y DU.

Mae gan y cwrs opsiynau sy’n para tri, chwe neu naw mis, yn dibynnu ar ofynion dysgu unigol. Oriau ystafell ddosbarth rheolaidd gyda gweithgareddau allgyrsiol ychwanegol. Mae myfyrwyr yn sicr o gael mynediad i raglenni Safon Uwch yng Ngholeg Gŵyr Abertawe pan fyddan nhw wedi cyrraedd y safon IELTS ofynnol.

Mae Saesneg Academaidd yn gwrs cwricwlwm ychwanegol sydd ar gael i fyfyrwyr Safon Uwch Coleg Gŵyr Abertawe a fyddai’n elwa ar gymorth ieithyddol. Mae arweinydd y cwrs yn cyd-gysylltu’n agos â staff y cwricwlwm i nodi meysydd datblygu penodol myfyrwyr. Mae’r dosbarthiadau’n cynnwys sesiynau adolygu un-i-un yn ogystal â thasgau dilyniant iaith generig. Mae ymarfer cynhwysfawr yn helpu myfyrwyr i lwyddo yn eu hastudiaethau academaidd a pharatoi ar gyfer IELTS.

Mae’r cwrs yn rhedeg unwaith yr wythnos am 2.5 awr trwy gydol y tymor a disgwylir i fyfyrwyr gwblhau gweithgareddau ac aseiniadau hunanddysgu a roddir iddyn nhw. Cynigir cymorth ychwanegol trwy system Bwcio Llyfrgellydd Coleg, lle mae cymorth un-i-un ar gael ar gyfer gwaith ymchwil pwnc a gwaith ieithyddol.

Bwriedir y rhaglen flwyddyn hon ar gyfer pobl ifanc 17-19 oed a hoffai symud ymlaen i brifysgol yn y DU. Bydd myfyrwyr yn dilyn Rhaglen Mynediad Lefel 3 sydd ar gael mewn amrywiaeth o bynciau gan gynnwys Busnes, Cyfrifiadura Cymhwysol, y Dyniaethau, y Gyfraith a Gwyddoniaeth. Yn ogystal â hyn, bydd myfyrwyr yn derbyn hyfforddiant Saesneg wedi’i deilwra i anghenion yr unigolyn, gan sicrhau bod myfyrwyr yn cyflawni’r lefel ofynnol o Saesneg er mwyn symud ymlaen yn llwyddiannus i’r brifysgol.

Ni fydd myfyrwyr sy’n mynychu’r rhaglen hon ynghlwm wrth brifysgol benodol. Yn lle, rhoddir arweiniad ardderchog i bob myfyriwr ar yrfaoedd i’w galluogi i ddewis y brifysgol iawn sy’n gweddu i’w diddordebau penodol. Mae’r rhan fwyaf o brifysgolion yn y DU yn derbyn myfyrwyr ein Rhaglen Sylfaen Ryngwladol, ond bydd eu derbyn yn dibynnu ar y canlyniad terfynol, lefel iaith Saesneg a chais UCAS. Yn ddiweddar, mae myfyrwyr wedi symud ymlaen i Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Bangor, i enwi ond ychydig.

I fod yn gymwys, dylai fod gan fyfyrwyr o leiaf 5.5 IELTS.

Rhaglen gymdeithasol