Skip to main content

Cyfrifiadura Cymhwysol HND

Amser-llawn
Lefel 5
HND
Tycoch
Dwy flynedd

Ffôn: 01792 284098 E-bost: he@gcs.ac.uk

Trosolwg

Corff llywodraethu: Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Logo Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Cwrs amser llawn yw hwn ar gyfer myfyrwyr sydd am brofi ystod eang o Sgiliau Cyfrifiadura a TG a ddefnyddir yn helaeth ym myd diwydiant.

Dylai fod gan fyfyrwyr ddiddordeb mawr mewn Cyfrifiadura/TG ​​a bod yn awyddus i gadw i fyny â’r technolegau diweddaraf a deall lle maen nhw’n bwysig i fodel busnes cwmni. Gall myfyrwyr llwyddiannus symud ymlaen o’r rhaglen yn uniongyrchol i flwyddyn olaf gradd BSc sy’n gysylltiedig â Chyfrifiadura ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Mae’r cwrs yn cwmpasu modiwlau sy’n nodi’r prinder sgiliau mewn TG/Cyfrifiadura, gan gynnwys: sgiliau academaidd a chyflogadwyedd ar gyfer myfyrwyr AU, pensaernïaeth a rhwydweithiau cyfrifiadurol, datblygu meddalwedd, peirianneg gwybodaeth, dadansoddi data a delweddu, technolegau rhyngrwyd a diogelwch, cysyniadau llwybro a switsio, datblygu apiau, systemau rheoli cronfeydd ddata, technolegau gwe, rheoli prosiectau a dulliau ymchwil ac – i’r myfyrwyr hynny sydd â diddordeb mewn dechrau a rhedeg eu busnes eu hunain - mae modiwl menter/arloesi.

Addysgir y rhaglen trwy ddarlithoedd, astudiaethau achos, arddangosiadau ymarferol a sesiynau tiwtorial.

Gwybodaeth allweddol

  • Tariff UCAS - 48 pwynt
  • Safon Uwch - DD/EEE
  • Diploma Mynediad i AU - Pasio
  • BTEC Diploma Lefel 3 – PPP
  • Pearson BTEC Diploma Cenedlaethol Lefel 3 - MP.

Sylwch y gallai/dylai pynciau Safon Uwch, Pearson BTEC (Diploma Cenedlaethol/Diploma Estynedig) neu Fynediad i AU gynnwys TGCh, Cyfrifiadura neu debyg. Fodd bynnag, byddai cymwysterau perthnasol eraill yn cael eu hystyried yn amodol ar gyfweliad a phrofiad academaidd perthnasol. 

Byddwn yn ystyried myfyrwyr hŷn sydd â phrofiad perthnasol ac sydd heb y gofynion mynediad ffurfiol, yn amodol ar gyfweliad. 

Mae disgwyl i fyfyrwyr feddu ar radd C neu uwch mewn TGAU Mathemateg a Saesneg.

Modiwlau

Blwyddyn gyntaf - Lefel 4

  • Pensaernïaeth Gyfrifiadurol a Systemau Gweithredu
  • Dadansoddi a Delweddu Data
  • Cyflwyniad i Gysyniadau Gwe a Chronfa Ddata
  • Sgiliau Academaidd a Chyflogadwyedd
  • Hanfodion Rhwydwaith a Diogelwch Seiber
  • Datblygu Meddalwedd.

Ail flwyddyn - Lefel 5

  • Rhwydweithio Uwch
  • Prosiect Grŵp Menter ac Arloesedd
  • Cronfeydd Data a Datblygu Cymwysiadau
  • Diogelwch Data a Chydymffurfio
  • Systemau a Gwasanaethau Gweithredu Rhwydwaith
  • Technolegau Gwe a Symudol.

Asesu

Asesir trwy arholiadau, profion ymarferol ac aseiniadau sy’n briodol i astudiaethau achos perthnasol.

Ar ôl cwblhau’r cwrs, gall myfyrwyr symud ymlaen i flwyddyn olaf y cwrs BSc(Anrh) mewn Cyfrifiadura gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCDDS).

Costau’r cwrs

£9,000* y flwyddyn, amser llawn. Mae’r Coleg yn cynnig bwrsari o £1,000 tuag at hyn ar gyfer cyrsiau amser llawn.

I gael gwybodaeth am gymorth ariannol – gan gynnwys benthyciadau ffioedd dysgu – ewch i www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk.

Ffioedd ychwanegol

  • Teithio i’r Coleg, neu’r lleoliad ac yn ôl
  • Costau llungopïo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. cofau bach)
  • Argraffu a rhwymo
  • Gynau ar gyfer seremonïau graddio.

Achredu Dysgu Blaenorol (APL)

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn croesawu ceisiadau ar sail dysgu blaenorol. Mae rhagor o fanylion i’w gweld yn y Swyddfa Academaidd | PCDDS.

* Sylwch y gallai’r ffioedd dysgu a nodir gynyddu ar gyfer blynyddoedd astudio yn y dyfodol. Ewch i wefan PCDDS i gael rhagor o wybodaeth.