Gradd Sylfaen mewn Rheolaeth Sba
Trosolwg
Oes gennych frwdfrydedd dros y diwydiant harddwch a sba neu ddiddordeb angerddol ynddo? Os felly, mae’r cwrs hwn yn cynnig cyfle unigryw i chi wella a datblygu eich gyrfa, gan roi cyfle i chi weithio yn y maes twf hwn sy’n werth miliynau o bunnoedd. Bwriad y rhaglen yw rhoi’r wybodaeth sylfaenol ddamcaniaethol a’r sgiliau technegol sydd eu hangen arnoch i ddal rôl reoli salon yn llwyddiannus yn y diwydiant sba. Bydd hefyd yn rhoi profiad ymarferol i chi yn ogystal ag agweddau proffesiynol sydd eu hangen i lwyddo yn y rôl hon o fewn y sector.
Byddwch yn ennill dealltwriaeth drylwyr o’r amgylchedd sba o bob ongl, gyda phwyslais arbennig parhaus ar fusnes a rheolaeth drwy gydol eich rhaglen. Yn ogystal â chael profiad gwaith amhrisiadwy yn ein salonau proffesiynol ein hunian, trwy ein cysylltiadau cadarn â chyflogwyr byddwch hefyd yn cael cyfle i gael lleoliad mewn salonau, sbas a chlinigau amrywiol yn Abertawe a’r cyffiniau ac ardal De Cymru. Byddwch yn dilyn eich rhaglen astudio dros ddwy flynedd academaidd – ac ar y diwedd gallwch naill ai ddewis gadael gyda chymhwyster gradd sylfaen uchel ei barch neu symud ymlaen i gam olaf rhaglen radd i ennill statws gradd lawn.
Diweddarwyd Mehefin 2019
Gwybodaeth allweddol
Meini Prawf Mynediad: |
Tariff UCAS - 48 pwynt |
Safon Uwch - DD/EEE |
Pearson BTEC Diploma Estynedig Cenedlaethol Lefel 3 - PPP |
Mynediad i Ddiploma AU - Pas |
Pearson BTEC Diploma Cenedlaethol Lefel 3 - MP |
Lefel 3 Therapi Harddwch neu Driniaethau Sba a’r Corff |
Asesir y rhaglen trwy gymysgedd strwythuredig o asesiadau a fydd yn cynnwys aseiniadau, traethodau, asesiadau ymarferol, adroddiadau rheoli, arholiadau a lleoliad gwaith astudiaeth faes.
Bydd asesiadau hefyd yn ceisio cefnogi datblygiad o ran rheoli sgiliau TGCh, sgiliau cyfathrebu a rhifedd ar gyfer diwydiant, a datblygu sgiliau allweddol yn enwedig sgiliau rheoli tasgau, datrys problemau, gwaith tîm, datblygiad personol ac arweinyddiaeth.
Blwyddyn 1 (Lefel 4):
• Theori ac Ymarfer Arweinyddiaeth a Rheolaeth
• Egwyddorion a Chymhwyso Aromatherapi
• Egwyddorion a Chymhwyso Adweitheg
• Therapïau Tylino Chwaraeon ac Ymarfer Corff
• Anatomeg a Ffisioleg ar gyfer Therapïau
• Datblygu Cynnyrch a Brand Newydd
Blwyddyn 2 (Lefel 5):
• Datblygu Busnes, Entrepreneuriaeth a Rheoli Adnoddau
• Triniaethau Sba Therapiwtig a Thylino Uwch
• Prosiect Ymchwil
• Profiad Clinigol a Datblygiad Personol
• Cyfrifeg ar gyfer Cyllid a Phenderfynwyr
• Adsefydlu ac Anafiadau Chwaraeon
Y ffioedd ar gyfer y cwrs hwn yw £6,165 y flwyddyn. Gwybodaeth bellach ar gyfer Cymru: http://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk
I fyfyrwyr sy’n byw y tu allan i Gymru, cysylltwch â’r Coleg i gael gwybodaeth am gymorth ffioedd a chyllid.
Mae costau ychwanegol yn cynnwys:
- Gwisg – tua £55
- Cit aromatherapi – tua £180
- Cit sba – tua £50
- Cit tylino corff – tua £35
Mae’n bosibl y bydd costau ychwanegol cysylltiedig â’r cwrs hwn, h.y.:
- teithio i ac o’r Coleg, neu’r lleoliad
- costau llungopïo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. ffyn USB)
- argraffu a rhwymo
- gynau ar gyfer seremonïau graddio
Bwrsari Coleg £500 y flwyddyn (yn amodol ar ddilynaint boddhaol). Y cod UCAS ar gyfer y cwrs hwn yw N871.