Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff Lefel 3 - Diploma Estynedig
Trosolwg
Mae’r cwrs dwy flynedd hwn yn ddelfrydol i’r rhai sydd â diddordeb cryf mewn gwyddor chwaraeon ac a hoffai ddatblygu gallu athletwr trwy astudiaethau dadansoddi ac ymchwil.
Mae meysydd astudio yn gallu cynnwys:
- Anatomeg
- Ffisioleg ymarfer corff
- Seicoleg chwaraeon
- Biomecaneg
- Maeth chwaraeon
- Ymchwil chwaraeon
- Anafiadau chwaraeon
Gellir addysgu elfennau o’r cwrs hwn drwy gyfrwng y Gymraeg.
Gwybodaeth allweddol
Saith gradd C neu uwch ar lefel TGAU gan gynnwys Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth Ddwbl. Byddwn yn ystyried gradd Rhagoriaeth mewn pynciau cyfwerth.
Asesir y cwrs trwy brosiectau parhaus ac aseiniadau ymarferol. Yn y flwyddyn olaf bydd myfyrwyr yn gweithio ar brosiect mawr sy’n cynnwys gweithgareddau ymchwil.
Bydd pob myfyriwr yn cymryd rhan mewn rhaglenni profiad gwaith.
Os dewiswch aros yn y Coleg, gallwch symud ymlaen i’r cwrs Gradd Sylfaen mewn Datblygu a Rheoli Chwaraeon
Bydd y cymhwyster hwn yn darparu’r sylfaen ar gyfer astudio ar lefel gradd er mwyn datblygu gyrfa mewn galwedigaethau cysylltiedig â gwyddor chwaraeon megis seicolegydd, biomecanydd, maethegydd, cinesiolegydd, therapi chwaraeon a ffisiotherapi. Byddai’n briodol i fyfyrwyr a hoffai addysgu addysg gorfforol.
Archwiliwch rai o’r gyrfaoedd y gallech eu dilyn ar ôl cwblhau’r cwrs hwn, a’u cyflog cysylltiedig.
Mae rhagor o gyfleoedd i’w gweld ar wefan Gyrfaoedd mewn Chwaraeon.
Bydd rhaid i fyfyrwyr ar y cwrs hwn dalu am wiriad DBS sy’n costio £40.
Rhaid i fyfyrwyr brynu crys-T, crys polo a hwdi ar gyfer y cwrs sy’n costio £70.
Bydd myfyrwyr yn cael cyfle i brynu tracwisg coleg a chit cysylltiedig â chwaraeon trwy’r timau chwaraeon a ddewiswyd.
Mae’n bosibl y bydd costau bach ychwanegol ar gyfer ymweliadau addysgol lleol.