Coginio ac Arlwyo Proffesiynol Lefel 1 - Diploma
Trosolwg
Yn ystod y cwrs blwyddyn hwn gallwch ddisgwyl profiad ymarferol go iawn wrth weithio gyda staff a myfyrwyr o gyffelyb fryd.
Byddwch yn cwblhau Diploma Cogydd a Thystysgrif Gwasanaeth Bwyd. Byddwch yn cwblhau amrywiaeth o asesiadau i ddatblygu eich gallu i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid ardderchog, mewn amgylchedd arlwyo masnachol.
Byddwch hefyd yn astudio Mathemateg, Saesneg Iaith, Llythrennedd Digidol a Chyflogadwyedd perthnasol, trwy ein rhaglen Cymorth Sgiliau.
Gwybodaeth allweddol
- 16+ oed
- O leiaf dair gradd E neu uwch ar lefel TGAU
- Cyfweliad llwyddiannus, geirdaon boddhaol.
Byddwch yn cwblhau asesiadau ymarferol yn y Vanilla Pod a’r ceginau masnachol.
Mae unedau theori yn cynnwys cwestiynau amlddewis, aseiniadau ysgrifenedig a phrofion byr.
Graddau’r unedau yw pasio / teilyngdod / rhagoriaeth.
Cyfleoedd i symud ymlaen i gymwysterau Diploma Lefel 2 Coginio ac Arlwyo Proffesiyno neu Cyflwyniad i Deithio a Thwristiaeth Lefel 2.