Cwrs Sylfaen mewn Gwasanaethau Adeiladu ac Adeiladau
Trosolwg
Mae’r Cwrs Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu yn rhoi cyflwyniad eang i adeiladu a’r amgylchedd adeiledig. Fe’i bwriedir ar gyfer dysgwyr sy’n mentro i addysg bellach ac sydd heb gael profiad o’r amgylchedd adeiledig eto.
Ar y Cwrs Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 2) rhaid i ddysgwyr wneud chwe uned craidd orfodol, unedau seiliedig ar theori gan gynnwys:
- Cyflwyniad i’r amgylchedd adeiledig
- Cyflwyniad i’r crefftau yn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig
- Cyflwyniad i gylch bywyd yr amgylchedd adeiledig, cyflogadwyedd yn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig
- Amddiffyn iechyd, diogelwch a’r amgylchedd wrth weithio yn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig
- Cyflwyniad i dechnolegau datblygol yn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig
...a dwy uned opsiynol sy’n benodol i’r grefft, naill ai
Opsiwn 1
Galwedigaethau Coed a Galwedigaethau Gorffennu Addurniadol a Pheintio Diwydiannol
Opsiwn 2
Gweithio gyda Brics, Blociau a Cherrig, a Phlastro a Systemau Mewnol
Opsiwn 3
Plymwaith, Gwresogi ac Awyru a Gosodiadau Trydanol (Systemau ac Offer Electrodechnegol)
Gwybodaeth allweddol
Bydd y cymhwyster yn rhoi gwybodaeth sylfaenol eang ar draws y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig yn ogystal â gwybodaeth a sgiliau rhagarweiniol mewn dau faes crefft o’ch dewis.
Bydd y cymhwyster yn rhoi’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i ddysgwyr symud ymlaen i astudiaethau pellach. Mae hyn yn cynnwys dilyniant i’r cymwysterau canlynol:
• Dilyniant mewn Adeiladu Lefel 2 - City & Guilds
• Dilyniant mewn Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu Lefel 2 - EAL
• Adeiladu Lefel 3 (maes crefft) - City & Guilds
• Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu Lefel 3 (maes crefft) - EAL