Skip to main content

Tystysgrif Addysg Broffesiynol i Raddedigion (PgCE)/Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg (TystBroff) mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (AHO)

Rhan-amser
Lefel 5/6
UoSW
Tycoch
Dwy flynedd

Ffôn: 01792 284098 E-bost: he@gcs.ac.uk

Trosolwg

Corff llywodraethu: Prifysgol De Cymru

Logo Prifysgol De Cymru

Tystysgrif Broffesiynol i Raddedigion mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (AHO) – mae’r cwrs hwn yn rhoi cymhwyster i chi addysgu yn y sector addysg bellach, oedolion a gwirfoddol (16+ oed). Mae’r cymhwyster addysgu llawn hwn yn cael ei gydnabod ar raddfa genedlaethol. Mae wedi’i gynllunio’n benodol ar gyfer y rheini sydd â gradd sy’n bwriadu addysgu mewn meysydd pynciau ôl-16 megis Busnes, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Cyfryngau, y Gyfraith, Peirianneg a TG.

Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (AHO) – mae’r cwrs hwn yn rhoi cymhwyster i chi addysgu yn y sector addysg bellach, oedolion a gwirfoddol (16+ oed). Mae’r cymhwyster addysgu llawn hwn yn cael ei gydnabod ar raddfa genedlaethol. Mae wedi’i gynllunio’n benodol ar gyfer y rheini sy’n dymuno addysgu pynciau galwedigaethol nad ydynt fel arfer yn gofyn am radd i’w haddysgu, ond yn hytrach yn godyn am brofiad a chymwysterau sy’n berthnasol i’r diwydiant megis Iechyd a Harddwch, Adeiladu a Cynnal a Chadw Cerbydau Modur.

Gwybodaeth allweddol

  • Tystysgrif Broffesiynol i Raddedigion mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (AHO). Mae gradd 2:1 neu uwch yn ddymunol, neu gyfwerth cydnabyddedig, mewn maes pwnc perthnasol. Os ydych yn cynnig pwnc galwedigaethol, fel arfer bydd disgwyl i chi ddangos bod gennych rywfaint o brofiad galwedigaethol perthnasol hefyd.
  • Tystysgrif Broffesiynol (TystBroff) mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (AHO). Bydd angen cymhwyster galwedigaethol Lefel 3 arnoch a phrofiad perthnasol yn y diwydiant/sector i ymuno â’r cwrs. Pan fyddwch gyda ni, byddwch yn datblygu sgiliau, hyder a dealltwriaeth o ddysgu, addysgu ac asesu yn eich pwnc.​

I’r ddau gwrs:

  • Mae gradd C neu uwch, neu’r cyfwerth mewn TGAU Mathemateg a Saesneg Iaith yn ddymunol
  • Gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) Manwl ar Restr y Gweithlu Plant a Gwahardd Plant a thanysgrifio i Wasanaeth Diweddaru DBS. (Bydd angen y cyfwerth tramor ar gyfer ymgeiswyr nad ydynt yn byw yn y DU)
  • Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf dylech allu dangos lefel IELTS 6.5 o leiaf neu’r cyfwerth (isafswm sgôr o 5.5 ym mhob band)
  • Bydd gofyn i ymgeiswyr rhan-amser gadarnhau 50 awr (lleiafswm) o addysgu, ac 20 awr o arsylwi ar diwtor profiadol yn y flwyddyn gyntaf, ac yn yr ail flwyddyn bydd gofyn iddynt gadarnhau 50 awr (lleiafswm) o addysgu ac 20 awr o ddyletswyddau arsylwi/adrannol.
  • Mae angen cyfweliad ar gyfer y cwrs hwn.

Modiwlau

Tystysgrif Broffesiynol i Raddedigion mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (AHO)

Lefel 5

  • Cynllunio ar gyfer dysgu (Blwyddyn 1).

Lefel 6

  • Asesu ar gyfer dysgu (Blwyddyn 1)
  • Datblygu ymarfer proffesiynol (Blwyddyn 1)
  • Ymchwil seiliedig ar ymarfer – astudiaeth achos dysgwr (Blwyddyn 2)
  • Llythrennedd ar gyfer dysgu (Blwyddyn 2)
  • Ehangu ymarfer proffesiynol (Blwyddyn 2).
Tystysgrif Broffesiynol (TystBroff) mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (AHO)

Lefel 4

  • Cynllunio ar gyfer dysgu (Blwyddyn 1).

Lefel 5

  • Asesu ar gyfer dysgu (Blwyddyn 1)
  • Datblygu ymarfer proffesiynol (Blwyddyn 1)
  • Ymchwil seiliedig ar ymarfer – astudiaeth achos dysgwr (Blwyddyn 2)
  • Llythrennedd ar gyfer dysgu (Blwyddyn 2)
  • Ehangu ymarfer proffesiynol (Blwyddyn 2).

Asesu

Nid oes arholiadau, gwaith cwrs yw’r holl asesiadau. 

Cewch eich asesu mewn gwahanol ffyrdd gan gynnwys gweithgareddau ymarferol a rhyngweithiol, yn ogystal â gwaith cwrs ysgrifenedig.

Lleoliadau

Disgwylir i fyfyrwyr sicrhau eu lleoliad eu hunain, ond byddwn yn gwneud ein gorau i gefnogi’r broses hon. Byddwn yn trafod y broses ar gyfer dod o hyd i leoliadau ymhellach yn ystod y cyfweliad.

Gwnawn bob ymdrech i sicrhau y cewch chi’r profiad mwyaf cynhyrchiol a chefnogol posibl o ddatblygiad proffesiynol.

Costau’r cwrs

£2,835 y flwyddyn (£945 fesul 20 credyd). Gallai myfyrwyr fod yn gymwys i gael bwrsari a chymorth i astudio ar y rhaglenni ar yr amod eu bod yn diwallu meini prawf cymhwystra penodol.

O.N. mae hyn yn uwch nag uchafswm y cymorth ffioedd dysgu, sef £2,625. Sylwch y gallai'r costau cwrs hyn newid ar gyfer blwydyn academaidd 2025-26. Bydd rhaid i fyfyrwyr dalu £210 os oes ganddynt fenthyciad ffioedd dysgu.

I gael gwybodaeth am gymorth ariannol - gan gynnwys benthyciadau ffioedd dysgu, ewch i www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk.

Ffioedd ychwanegol

  • Mae angen gliniadur arnoch chi i gwblhau’r cwrs - mae gliniaduron yn costio £400 (ac uwch) - nodwch, bydd gan fyfyrwyr fynediad i Microsoft Office 365.
  • £38 am wiriad DBS sef elfen hanfodol o’r cwrs
  • £13 i ymuno â gwasanaeth diweddaru DBS
  • Teithio i ac o’r Coleg, neu’r lleoliad
  • Llungopïo, deunydd ysgrifennu a chostau offer (e.e. cofion bach)
  • Argraffu a rhwymo
  • Gynau ar gyfer seremonïau graddio.

Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol

Mae’n bosibl y bydd y myfyriwr yn gallu ennill cydnabyddiaeth ar gyfer dysgu blaenorol. Cysylltwch i gael cyngor os teimlwch y gallai hyn fod yn bethnasol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn www.celt.southwales.ac.uk.