Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Plymwaith a Gwresogi) - Prentisiaeth
Trosolwg
Datblygwyd y cwrs hwn i roi cyfle i’r rhai mewn dysgu seiliedig ar waith ddangos a chynyddu eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u dealltwriaeth galwedigaethol o fewn eu crefft Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu.
Anelir y cwrs at ddysgwyr sydd naill ai wedi cyflawni cymhwyster Sylfaen Lefel 2 mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig neu a fydd yn cwblhau dysgu ac asesiadau Craidd Lefel 2 mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu yn ystod eu prentisiaeth. Bydd y cymhwyster hwn yn rhoi modd i ddysgwyr fynd ymlaen i astudio cyrsiau Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu Lefel 3 eraill sy’n berthnasol i’r grefft o’u dewis.
Bydd y cymhwyster Craidd Lefel 2 yn rhoi trosolwg i ddysgwyr o’r Diwydiant Adeiladu ochr yn ochr â chynnwys theori sy’n benodol i’r grefft a hyfforddiant ymarferol mewn plymwaith.
Bydd Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Plymwaith a Gwresogi) Lefel 3 yn canolbwyntio ar unedau theori a fydd yn cynnwys dylunio, gosod, cynnal a chadw ac atgyweirio systemau domestig cymhleth. Bydd dysgwyr hefyd yn cwblhau hyfforddiant ymarferol mewn lleoliad gweithdy a byddan nhw’n casglu tystiolaeth ymarferol addas gyda’u cyflogwr.
Gwybodaeth allweddol
Mae’r llwybr prentisiaeth yn addas i ddysgwyr sydd:
- Yn 16+ oed sy’n gweithio yn y grefft ar hyn o bryd
- Wedi pasio’r holl asesiadau mynediad sy’n berthnasol i’r sector (lle y bo’n briodol)
- Wedi cyflawni un neu fwy o’r canlynol (neu gymhwyster cyfwerth cydnabyddedig):
- Cymhwyster Sylfaen Lefel 2 mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig
- Cymhyster Lefel 2 Dilyniant mewn Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu*
- Diploma Cenedlaethol Bagloriaeth Cymru
- Gradd A*-C ar lefel TGAU ym mhob un o’r canlynol: - pwnc cyfathrebu, mathemateg a naill ai pwnc gwyddoniaeth neu bwnc technegol (e.e. Dylunio a Thechnoleg, Electroneg)
- Gradd A*-C mewn CBAC TGAU Amgylchedd Adeiledig
- Cymhwyster Lefel 2 Mynediad i Beirianneg Gwasanaethau Adeiladu a/neu gymwysterau cyfwerth.
09:00 – 19:30, 1 diwrnod yr wythnos
Cymysgedd o waith cwrs, asesiadau ymarferol, ac arholiadau ar-lein.
Strwythur asesu
I ennill y cymhwyster hwn, rhaid i ddysgwyr gwblhau’r canlynol:
- Blwyddyn 1 – Craidd mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu
- Blwyddyn 2 - Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 3) – Plymwaith a Gwresogi (Canolradd)
- Blwyddyn 3 - Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 3) – Plymwaith a Gwresogi (Uwch).
Ym Mlwyddyn 4 –
Bydd yn ofynnol i ddysgwyr gwblhau un o’r llwybrau dewisol o’r canlynol:
1. Tanwydd Ffosil – Nwy Naturiol (mae hwn yn cyd-fynd â safonau asesu IGEM IG1 ac ACS)
2. Technolegau Amgylcheddol (mae hwn yn cyd-fynd â gofynion MCS)
Bydd dysgwyr sydd heb gwblhau’r cymhwyster Sylfaen Lefel 2 mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu yn dechrau’r cwrs ym Mlwyddyn 1 ac yn cwblhau’r cymhwyster Craidd Lefel 2 mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu. Bydd dysgwyr sydd wedi cwblhau’r cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu yn dechrau’r cwrs ar Flwyddyn 2 ac yn dechrau Lefel 3 Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Gwresogi a Phlymwaith).