Skip to main content

Office 365 - PowerPoint a Sway

Rhan-amser
Sketty Hall
Tair awr

Trosolwg

PowerPoint

Mae Powerpoint Office 365 yn cynnig llawer o nodweddion sy’n gallu gwella cyflwyniadau. Mae’r nodweddion yn hawdd eu defnyddio ac maent yn eich caniatáu i greu cyflwyniadau grymus, sy’n gwella cyfraddau ymgysylltu â gwylwyr. Byddwn yn defnyddio nodweddion newydd sydd ond ar gael ar-lein. Yn y gweithdy byddwch yn creu eich PowerPoint eich hun gan ddefnyddio’r nodweddion canlynol: 

  • PowerPoint 
  • Offer dylunio 
  • Ychwanegu testun a delweddau 
  • Mewnbynnu fideos 
  • Animeiddiadau a thrawsnewidiadau 
  • Smart art 
  • Cameo
  • Newid cynllun sleidiau 
  • Isdeitlau ac iaith isdeitlau 
  • Ymarfer gyda Hyfforddwr 
  • Rhannu a chydweithio.

Sway 

Mae Microsoft Sway yn offeryn deinamig a hawdd ei ddefnyddio ar gyfer addysgwyr. Mae’n caniatau defnyddwyr i greu tudalennau gwe a chyflwyniadau ar gyfer yr ystafell ddosbarth. Mae Sway yn eich galluogi i ddylunio tudalennau gwe, adroddiadau neu gylchlythyrau rhyngweithiol sy'n weledol atyniadol.  Yn y sesiwn byddwch yn dechrau defnyddio Sway a chreu eich tudalen we eich hun. Byddwch hefyd yn rhoi cynnig ar y tasgau isod: 

  • Fformatio dogfen Word i'w hallforio i dudalen we 
  • Archwilio manteision yr offeryn 
  • Mewnbynnu data megis delweddau, fideos, clipiau sain a thestun  
  • Grwpio cyfryngau a chreu cynnwys rhyngweithiol 
  • Newid thema 
  • Addasu themâu 
  • Defnyddio offer cyflwyno 
  • Rhannu a chydweithio 
  • Templedau.

Gwybodaeth allweddol

Mae’r cwrs yn addas ar gyfer unigolion sy’n gyfarwydd â defnyddio cyfrifiaduron.

Off